(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Ionawr 2022 mewn perthynas â phersonau penodol. Mae’r Gorchymyn yn gwneud hyn drwy eithrio o’r cychwyn hwnnw bersonau sy’n dod o fewn categori a nodir yn erthygl 4 ar 1 Ionawr 2022. Mae’r categorïau sydd wedi eu heithrio yn cynnwys y rheini sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol a’r rheini sy’n ymwneud â’r fframwaith statudol presennol. Mae hyn yn cynnwys y rheini sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd (gweler erthygl 2).