Dyletswydd i roi hysbysiadLL+C

9.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022 ac sydd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10.

(2Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022 [F1neu’r flwyddyn ysgol 2022-2023].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 9 mewn grym ar y dyddiad gwneud