F116A.
(1)
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a)
a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,
(b)
a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024, ac
(c)
nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2)
Ar 31 Awst 2024—
(a)
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.