Amser ar gyfer rhoi cynllun datblygu unigol

13.—(1Pan fo hysbysiad CDU wedi ei roi yn unol ag erthyglau 9, 10, 11 neu 12 rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.

(2Os oes amgylchiadau eithriadol, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(3Nid yw unrhyw amserlenni yn y cod sy’n ymwneud â llunio cynllun datblygu unigol gan awdurdod lleol yn gymwys pan fo cynllun datblygu unigol wedi ei lunio yn dilyn rhoi hysbysiad CDU.