Newid mewn amgylchiadau20.
(1)
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022—
(a)
sy’n dod yn blentyn sy’n derbyn gofal,
(b)
nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, ac
(c)
y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2)
Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal—
(a)
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.