16.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C
(a)a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,
(b)a oedd [F1ym mlwyddyn] ysgol 2022-2023, ac
(c)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.
(2) Ar 31 Awst 2023—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn ergl. 16(1)(b) wedi eu hepgor (10.6.2022) yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 5 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 6) 2022 (O.S. 2022/663), ergl. 2(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 16 mewn grym ar y dyddiad gwneud