Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodol15.

(1)

Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—

(a)

a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,

(b)

a oedd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022, ac

(c)

nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2022.

(2)

Ar 31 Awst 2022—

(a)

mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)

mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.