Hysbysiad ADY14.

(1)

Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022.

(2)

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY i blentyn a rhiant y plentyn hwnnw ar unrhyw adeg.

(3)

Caiff plentyn sydd wedi peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddo, neu riant y plentyn hwnnw, ofyn i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY, a rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY o fewn 10 niwrnod gwaith i’r cais.

(4)

Effaith yr hysbysiad ADY yw—

(a)

bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad; a

(b)

bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad.

(5)

Ni chaiff yr awdurdod lleol priodol ond rhoi hysbysiad ADY o dan amgylchiadau eithriadol, oni bai bod yr hysbysiad ADY yn cael ei roi o ganlyniad i gais a wneir o dan baragraff (3).

(6)

Yn yr erthygl hon ystyr “awdurdod lleol priodol” yw—

(a)

yr awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gyfrifol am y plentyn,

(b)

pan na fo awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y plentyn, awdurdod lleol yng Nghymru y mae’r ysgol a gynhelir y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi yn ei ardal.