13.—(1) Pan fo hysbysiad CDU wedi ei roi yn unol ag erthyglau 9, 10, [F110A,] 11 neu 12, rhaid i’r corff llywodraethu roi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 35 o ddiwrnodau ysgol i ddyddiad yr hysbysiad oni bai—
(a)bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) o’r Ddeddf yn gymwys; neu
(b)bod amgylchiadau eithriadol.
(2) Os oes amgylchiadau eithriadol, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(3) Nid yw unrhyw amserlenni yn y cod sy’n ymwneud â llunio cynllun datblygu unigol gan gorff llywodraethu yn gymwys pan gaiff cynllun datblygu unigol ei lunio yn dilyn rhoi hysbysiad CDU.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn ergl. 13(1) wedi ei fewnosod (21.8.2023) gan Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchmynion Cychwyn Rhif 5, Rhif 6, Rhif 8, Rhif 13 a Rhif 14) 2023 (O.S. 2023/932), ergl. 2(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 13 mewn grym ar y dyddiad gwneud