Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021

10.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022 ac sydd [F1ym mlwyddyn] 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.LL+C

(2Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n darparu’r ddarpariaeth addysgol arbennig i’r plentyn roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 mewn grym ar y dyddiad gwneud