2021 Rhif 1232 (Cy. 311)
Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir Fynwy (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20132 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mehefin 2021 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Fynwy.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi, cychwyn a dehongli1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2)

At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 19763, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 9 Tachwedd 2021.

(3)

At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20224.

(4)

Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Fynwy;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Fynwy2.

(1)

Mae wardiau etholiadol Sir Fynwy, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2)

Mae Sir Fynwy wedi ei rhannu’n 39 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3)

Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4)

Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5)

Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19725.
Annotations:
Commencement Information

I3Ergl. 2 mewn grym ar 9.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I4Ergl. 2 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Erthygl 2

Annotations:
Commencement Information

I5Atod. mewn grym ar 9.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6Atod. mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Tabl

Colofn (1)

Colofn (2)

Colofn (3)

Colofn (4)

Enw Saesneg y ward etholiadol

Enw Cymraeg y ward etholiadol

Ardal y ward etholiadol

Nifer aelodau’r cyngor

Bulwark and Thornwell

Bulwark a Thornwell

Wardiau Bulwark, Thornwell a Maple Avenue o gymuned Cas-gwent

2

Caerwent

Caer-went

Cymuned Caer-went

1

Caldicot Castle

Castell Cil-y-coed

Ward Castell Caldicot o gymuned Caldicot

1

Caldicot Cross

Croes Cil-y-coed

Ward Caldicot Cross o gymuned Caldicot

1

Cantref

Cantref

Wardiau Cantref and Llanwenarth Citra o gymuned y Fenni

1

Chepstow Castle and Larkfield

Castell Cas-gwent a Larkfield

Wardiau Castell Cas-gwent a Larkfield o gymuned Cas-gwent

2

Croesonen

Croesonnen

Ward Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau

1

Crucorney

Crucornau Fawr

Cymunedau Crucornau a Grysmwnt

1

Devauden

Devauden

Cymuned Devauden a wardiau Llan-gwm a Llan-soe o gymuned Llantrisant Fawr

1

Dewstow

Llanddewi

Ward Llanddewi o gymuned Caldicot

1

Drybridge

Drybridge

Ward Drybridge o gymuned Trefynwy

1

Gobion Fawr

Gobion Fawr

Cymunedau Gobion Fawr a Llan-arth

1

Goetre Fawr

Goetre Fawr

Cymuned Goetre Fawr

1

Grofield

Grofield

Ward Grofield o gymuned y Fenni

1

Lansdown

Lansdown

Ward Lansdown o gymuned y Fenni

1

Llanbadoc and Usk

Llanbadog a Brynbuga

Cymunedau Llanbadog a Brynbuga

2

Llanelly

Llanelli

Cymuned Llanelli

2

Llanfoist Fawr and Govilon

Llan-ffwyst Fawr a Gofilon

Cymuned Llan-ffwyst Fawr

2

Llangybi Fawr

Llangybi Fawr

Cymuned Llangybi a wardiau Gwernesni a Llantrisant o gymuned Llantrisant Fawr

1

Llantilio Crossenny

Llandeilo Gresynni

Cymunedau Ynysgynwraidd a Chastell-gwyn

1

Magor East with Undy

Dwyrain Magwyr gyda Gwndy

Wardiau Dwyrain Magwyr a Gwndy o gymuned Magwyr gyda Gwndy

2

Magor West

Gorllewin Magwyr

Ward Gorllewin Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy

1

Mardy

Y Maerdy

Wardiau’r Maerdy, Pantygelli ac Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau

1

Mitchel Troy and Trellech United

Llanfihangel Troddi a Thryleg Unedig

Cymunedau Llanfihangel Troddi a Thryleg Unedig

2

Mount Pleasant

Mount Pleasant

Ward Mount Pleasant o gymuned Cas-gwent

1

Osbaston

Osbaston

Ward Osbaston o gymuned Trefynwy

1

Overmonnow

Overmonnow

Ward Overmonnow o gymuned Trefynwy

1

Park

Y Parc

Ward y Parc o gymuned y Fenni

1

Pen Y Fal

Pen-y-fâl

Ward Pen-y-fâl o gymuned y Fenni

1

Portskewett

Porthsgiwed

Cymuned Porth Sgiwed

1

Raglan

Rhaglan

Cymuned Rhaglan

1

Rogiet

Rogiet

Cymuned Rogiet

1

Severn

Hafren

Wardiau Hafren a The Village o gymuned Caldicot

1

Shirenewton

Drenewydd Gelli-farch

Cymunedau Matharn a Drenewydd Gelli-farch

1

St Arvans

Llanarfan

Cymunedau St Arvans a Dyffryn Gwy

1

St Kingsmark

Llangynfarch

Ward St Kingsmark o gymuned Cas-gwent

1

Town

Y Dref

Ward y Dref o gymuned Trefynwy

1

West End

West End

Ward West End o gymuned Caldicot

1

Wyesham

Wyesham

Ward Wyesham o gymuned Trefynwy

1

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mehefin 2021 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Fynwy. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 40 i 39, ond cynyddu nifer y cynghorwyr o 45 i 46.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Fynwy ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Fynwy.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.