Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi, cychwyn a dirymu1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021.
(2)
At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3)
(4)
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir y Fflint;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 10 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “10”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir y Fflint3.
(1)
Mae wardiau etholiadol Sir y Fflint, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2)
Mae Sir y Fflint wedi ei rhannu’n 45 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3)
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4)
Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5)
Tref Bwcle: newidiadau i wardiau cymunedol4.
Yn nhref Bwcle—
(a)
mae’r rhan o ward Pentrobin a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Bistre;
(b)
mae’r rhan o ward Mynydd a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Pentrobin.
Tref Bwcle: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol5.
Yn nhref Bwcle—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Mynydd yw 3;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pentrobin yw 7.
Tref y Fflint: newidiadau i wardiau cymunedol6.
Yn nhref y Fflint—
(a)
mae’r rhan o ward Oakenholt a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward y Castell;
(b)
mae’r rhan o ward Oakenholt a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward Trelawny.
Tref y Fflint: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol7.
Yn nhref y Fflint—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Oakenholt yw 3;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Trelawny yw 4.
Tref Cei Connah: newidiadau i wardiau cymunedol8.
Yn nhref Cei Connah—
(a)
mae’r rhan o ward De Cei Connah a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Cei Connah;
(b)
mae’r rhan o ward Golftyn a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Cei Connah.
Tref Cei Connah: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol9.
Yn nhref Cei Connah—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Cei Connah yw 5;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Cei Connah yw 6.
Cymuned yr Wyddgrug: newidiadau i wardiau cymunedol10.
Yng nghymuned yr Wyddgrug—
(a)
mae’r rhan o ward Gorllewin yr Wyddgrug a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain yr Wyddgrug;
(b)
mae’r rhan o ward Broncoed a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward y De;
(c)
mae’r rhan o ward De’r Wyddgrug a ddangosir â llinellau ar Fap 8 wedi ei throsglwyddo i ward Gorllewin yr Wyddgrug.
Cymuned Penarlâg: newidiadau i wardiau cymunedol a diddymu ward gymunedol Penarlâg11.
Mae ward gymunedol Penarlâg, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu ac—
(a)
mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 9 wedi ei throsglwyddo i ward Mancot;
(b)
mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 10 wedi ei throsglwyddo i ward Aston.
Cymuned Penarlâg: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol12.
Yng nghymuned Penarlâg—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Aston yw 7;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Mancot yw 7.
YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Argoed and New Brighton | Argoed a New Brighton | Cymuned Argoed | 2 |
Bagillt | Bagillt | Tref Bagillt | 2 |
Broughton North East | Gogledd-ddwyrain Brychdyn | Ward y Gogledd-ddwyrain o gymuned Brychdyn a Bretton | 1 |
Broughton South | De Brychdyn | Ward y De o gymuned Brychdyn a Bretton | 2 |
Brynford and Halkyn | Brynffordd a Helygain | Cymunedau Brynffordd a Helygain | 2 |
Buckley: Bistre East | Bwcle: Dwyrain Bistre | Ward Dwyrain Bistre o dref Bwcle | 2 |
Buckley: Bistre West | Bwcle: Gorllewin Bistre | Ward Gorllewin Bistre o dref Bwcle | 2 |
Buckley: Mountain | Bwcle: Mynydd | Ward Bwcle: Mynydd o dref Bwcle | 1 |
Buckley: Pentrobin | Bwcle: Pentrobin | Ward Pentrobin o dref Bwcle | 2 |
Caergwrle | Caergwrle | Ward Caergwrle o gymuned yr Hôb | 1 |
Caerwys | Caerwys | Cymuned Caerwys a chymuned Ysceifiog | 1 |
Cilcain | Cilcain | Cymunedau Cilcain a Nannerch | 1 |
Connah’s Quay Central | Canol Cei Connah | Ward Canol Cei Connah o dref Cei Connah | 2 |
Connah’s Quay: Golftyn | Cei Connah: Golftyn | Ward Golftyn o dref Cei Connah | 2 |
Connah’s Quay South | De Cei Connah | Ward De Cei Connah o dref Cei Connah | 2 |
Connah’s Quay: Wepre | Cei Connah: Gwepra | Ward Gwepra o dref Cei Connah | 1 |
Flint: Castle | Y Fflint: Y Castell | Ward y Castell o dref y Fflint | 1 |
Flint: Coleshill and Trelawny | Y Fflint: Cynswllt a Threlawny | Wardiau Cynswllt a Threlawny o dref y Fflint | 3 |
Flint: Oakenholt | Y Fflint: Oakenholt | Ward Oakenholt o dref y Fflint | 1 |
Greenfield | Maes-glas | Ward Maes-glas o dref Treffynnon | 1 |
Gwernaffield and Gwernymynydd | Y Waun a Gwernymynydd | Cymunedau’r Waun a Phant-y-mwyn, Gwernymynydd a Nercwys | 2 |
Hawarden: Aston | Penarlâg: Aston | Ward Aston o gymuned Penarlâg | 2 |
Hawarden: Ewloe | Penarlâg: Ewloe | Ward Ewloe o gymuned Penarlâg | 2 |
Hawarden: Mancot | Penarlâg: Mancot | Ward Mancot o gymuned Penarlâg | 2 |
Higher Kinnerton | Kinnerton Uchaf | Cymuned Kinnerton Uchaf | 1 |
Holywell Central | Canol Treffynnon | Ward Canol Treffynnon o dref Treffynnon | 1 |
Holywell East | Dwyrain Treffynnon | Ward Dwyrain Treffynnon o dref Treffynnon | 1 |
Holywell West | Gorllewin Treffynnon | Ward Gorllewin Treffynnon o dref Treffynnon | 1 |
Hope | Yr Hôb | Ward yr Hôb o gymuned yr Hôb | 1 |
Leeswood | Coed-llai | Cymuned Coed-llai | 1 |
Llanasa and Trelawnyd | Llanasa a Threlawnyd | Cymunedau Llanasa, a Gwaunysgor a Threlawnyd | 2 |
Llanfynydd | Llanfynydd | Cymuned Llanfynydd | 1 |
Mold: Broncoed | Yr Wyddgrug: Broncoed | Ward Broncoed o gymuned yr Wyddgrug | 1 |
Mold East | Dwyrain yr Wyddgrug | Ward Dwyrain yr Wyddgrug o gymuned yr Wyddgrug | 1 |
Mold South | De’r Wyddgrug | Ward De’r Wyddgrug o gymuned yr Wyddgrug | 1 |
Mold West | Gorllewin yr Wyddgrug | Ward Gorllewin yr Wyddgrug o gymuned yr Wyddgrug | 1 |
Mostyn | Mostyn | Cymuned Mostyn | 1 |
Northop | Llaneurgain | Cymunedau Llaneurgain a Northop Hall | 2 |
Pen-y-ffordd | Pen-y-ffordd | Cymuned Pen-y-ffordd | 2 |
Saltney Ferry | Saltney Ferry | Tref Saltney | 2 |
Queensferry and Sealand | Queensferry a Sealand | Cymunedau Queensferry a Sealand | 2 |
Shotton East and Shotton Higher | Dwyrain Shotton a Shotton Uchaf | Ward Dwyrain Shotton a ward Shotton Uchaf o gymuned Shotton | 2 |
Shotton West | Gorllewin Shotton | Ward Gorllewin Shotton o gymuned Shotton | 1 |
Treuddyn | Treuddyn | Cymuned Treuddyn | 1 |
Whitford | Chwitffordd | Cymuned Chwitffordd | 1 |
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mehefin 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir y Fflint. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 57 i 42, a lleihau nifer y cynghorwyr o 70 i 66.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 1(4) o’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 2021.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir y Fflint ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir y Fflint.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i wardiau cymunedol a threfniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau yn Sir y Fflint.
Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Pentrobin, Dwyrain Bistre a Mynydd yn nhref Bwcle. Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Mynydd a Phentrobin o dref Bwcle.
Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Oakenholt, y Castell a Threlawny yn nhref y Fflint. Mae erthygl 7 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Oakenholt a Threlawny o dref y Fflint.
Mae erthygl 8 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol De Cei Connah, Canol Cei Connah a Golftyn yn nhref Cei Connah. Mae erthygl 9 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Canol Cei Connah a De Cei Connah yn nhref Cei Connah.
Mae erthygl 10 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Gorllewin yr Wyddgrug, Dwyrain yr Wyddgrug, Broncoed a De’r Wyddgrug yng nghymuned yr Wyddgrug.
Mae erthygl 11 yn diddymu ward gymunedol Penarlâg yng nghymuned Penarlâg ac yn trosglwyddo rhannau o’r ward honno i wardiau Mancot ac Aston o gymuned Penarlâg. Mae erthygl 12 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Aston a Mancot o gymuned Penarlâg.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “10” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Sir y Fflint. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir y Fflint yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.