NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn gweithredu cynigion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Ionawr 2019 ar adolygiad o drefniadau cymunedol yn Sir Fynwy a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn argymell newidiadau i ffiniau presennol cymunedau yn ardal Cyngor Sir Fynwy a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol, ac mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn heb addasiad.

Effaith y Gorchymyn hwn yw gwneud newidiadau i nifer o ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol. Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn diddymu nifer o gymunedau a’u cynghorau cymuned, yn creu cymunedau newydd a chynghorau cymuned newydd ac yn gwneud darpariaeth weinyddol ar gyfer gweithrediad y cynghorau cymuned newydd hynny, a gosod praeseptau sy’n ymwneud â hwy.

Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 y cyfeirir atynt yn erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, darpariaethau canlyniadol, darpariaethau trosiannol a darpariaethau atodol ynghylch effaith a gweithrediad gorchmynion o’r math hwn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “166” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Sir Fynwy. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir Fynwy yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.