2021 Rhif 1227 (Cy. 309)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19722 (“Deddf 1972”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Ionawr 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion adolygiad o’r trefniadau cymunedol yn Sir Fynwy a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy.
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i argymhellion y Comisiwn heb addasiad.
Yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf 1972, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.