Crucornau, Grysmwnt ac Ynysgynwraidd — newid ffiniau cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol87.
Mae’r rhan o gymuned Crucornau a ddangosir â llinellau ar Fap 67—
(a)
wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Ynysgynwraidd;
(b)
yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Llanwytherin;
(c)
yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.