Caer-went, Crug, Dinham, Llanfair Disgoed a Saint-y-brid — newidiadau i ffiniau wardiau cymunedol a newidiadau canlyniadol i wardiau etholiadol30.
Mae’r rhan o ward Llanfair Disgoed o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 26—
(a)
wedi ei throsglwyddo i ward Saint-y-brid o gymuned Caer-went;
(b)
yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.