Y Fenni, Llan-ffwyst Fawr, Llanofer a Llandeilo Bertholau — newid ffiniau cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

3.  Mae’r rhan o gymuned Llan-ffwyst Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 1—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned y Fenni;

(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanwenarth Citra;

(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Cantref.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 3 mewn grym ar 8.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 3 mewn grym ar 4.5.2022 am 23.59 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)