Cynghorau cymuned newydd — olynwyr gweddilliol253.

At ddibenion unrhyw ddarpariaeth o’r Rheoliadau sy’n cyfeirio at olynydd gweddilliol awdurdod a ddiddymwyd—

(a)

mewn perthynas â chynghorau cymuned presennol Llan-gwm a Llantrisant Fawr, mae cyngor cymuned newydd Llantrisant Fawr wedi ei bennu yn olynydd gweddilliol;

(b)

mewn perthynas â chynghorau cymuned presennol Llangybi a Llanhenwg, mae cyngor cymuned newydd Llangybi wedi ei bennu yn olynydd gweddilliol.