DehongliLL+C

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “newydd” (“new”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;

ystyr “presennol” (“existing”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw’r ardal honno fel y mae’n bodoli yn union cyn yr amser a’r dyddiad a nodwyd yn erthygl 1(3);

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(1);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir cynghorwyr drosti i Gyngor Sir Fynwy;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 166 o fapiau a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021”, a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “166”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i harbedwyd, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

(2Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf 1972 neu Orchymyn a wnaed o dan adrannau 37(1), 38(1) neu 39(1) o [F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013] (2).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 2 mewn grym ar 8.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 2 mewn grym ar 4.5.2022 am 23.59 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

(1)

O.S. 1976/246 (fel y’i diwygiwyd gan offerynnau statudol amrywiol. Nid yw’r diwygiadau hynny yn berthnasol at ddibenion y Gorchymyn hwn).