Dwyrain Croesonnen a Gorllewin Croesonnen — cyfuno wardiau cymunedol a newid canlyniadol i ward etholiadol148.

Mae wardiau presennol Dwyrain Croesonnen a Gorllewin Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau fel y’u newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 107—

(a)

wedi eu cyfuno ac yn ffurfio ward gymunedol Croesonnen;

(b)

yn ffurfio ward etholiadol Croesonnen.