Dwyrain Croesonnen, Gorllewin Croesonnen a Gorllewin Ysgyryd — newid ffiniau wardiau cymunedol a newidiadau canlyniadol i wardiau etholiadol145.
Mae’r rhan o ward Dwyrain Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 104—
(a)
wedi ei throsglwyddo i ward Gorllewin Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau;
(b)
yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Maerdy.