Llangybi a Llanhenwg — cyfuno cymunedau a newid canlyniadol i gynghorau cymuned a threfniadau etholiadolLL+C

136.—(1Mae ardaloedd cymunedau Llangybi a Llanhenwg fel y’i dangosir â llinellau ar Fap 101 wedi eu cyfuno i ffurfio cymuned Llangybi, sy’n ffurfio rhan o ward etholiadol Llangybi Fawr.

(2Mae cynghorau cymuned Llangybi a Llanhenwg wedi eu diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 136 mewn grym ar 8.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 136 mewn grym ar 4.5.2022 am 23.59 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)