1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Tachwedd 2021.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym am 23:59 o’r gloch ar y diwrnod cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar 8.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I2Ergl. 1 mewn grym ar 4.5.2022 ar 23:59 hours i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.