NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2018 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Gwynedd. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 71 i 65, a lleihau nifer yr aelodau o 75 i 69.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Gwynedd ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Gwynedd.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ar gyfer newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau yn Sir Gwynedd.

Mae erthygl 4 yn diddymu ward gymunedol Deiniol yng nghymuned Bangor ac yn trosglwyddo rhannau o’r ward honno i wardiau Hendre a Hirael o gymuned Bangor. Mae erthygl 5 yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Garth, Hendre, Hirael a Marchog o gymuned Bangor.

Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Ogwen, Rachub a Gerlan yng nghymuned Bethesda. Mae erthygl 7 yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau hyn.

Mae erthygl 8 yn diddymu wardiau cymunedol Dwyrain, Gogledd, Deheuol a Gorllewin yng nghymuned Caernarfon. Mae erthygl 9 yn creu wardiau cymunedol newydd Cadnant, Canol Tref, Hendre, Menai a Pheblig yng nghymuned Caernarfon. Mae erthygl 10 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau cymunedol newydd hyn.

Mae erthygl 11 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol De Dolgellau a Gogledd Dolgellau yng nghymuned Dolgellau.

Mae erthygl 12 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol Congl-y-wal, a Diffwys a Maenofferen yng nghymuned Ffestiniog. Mae erthygl 13 yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau ffiniau a labelwyd “1” i “11” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Gwynedd. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Gwynedd yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.