Enwi a chychwyn
1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2)
At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3)
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Gwynedd;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 11 o fapiau a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “11”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Gwynedd
3.
(1)
Mae wardiau etholiadol Sir Gwynedd, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2)
Mae Sir Gwynedd wedi ei rhannu’n 65 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3)
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4)
Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5)
Cymuned Bangor: diddymu ward gymunedol Deiniol a newidiadau i wardiau cymunedol
4.
Mae ward Deiniol o gymuned Bangor, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu ac—
(a)
mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Hendre o gymuned Bangor;
(b)
mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Hirael o gymuned Bangor.
Cymuned Bangor: newidiadau i drefniadau etholiadol
5.
Yng nghymuned Bangor—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Garth yw 1;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hendre yw 3;
(c)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hirael yw 3;
(d)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Marchog yw 4.
Cymuned Bethesda: newidiadau i wardiau cymunedol
6.
Yng nghymuned Bethesda—
(a)
mae’r rhan o ward Ogwen a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Rachub;
(b)
mae’r rhan o ward Ogwen a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward Gerlan.
Cymuned Bethesda: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol
7.
Yng nghymuned Bethesda—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gerlan yw 5;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Ogwen yw 4;
(c)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rachub yw 4.
Cymuned Caernarfon: diddymu wardiau cymunedol a’u creu
8.
Mae wardiau Dwyrain, Gogledd, Deheuol a Gorllewin o gymuned Caernarfon, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
9.
Mae cymuned Caernarfon i’w rhannu i ffurfio’r wardiau a ganlyn—
(a)
ward Cadnant a ddangosir â llinellau ar Fap 5;
(b)
ward Canol Tref a ddangosir â llinellau ar Fap 6;
(c)
ward Hendre a ddangosir â llinellau ar Fap 7;
(d)
ward Menai a ddangosir â llinellau ar Fap 8;
(e)
ward Peblig a ddangosir â llinellau ar Fap 9.
Cymuned Caernarfon: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol
10.
Yng nghymuned Caernarfon—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Cadnant yw 3;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Tref yw 3;
(c)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hendre yw 3;
(d)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Menai yw 4;
(e)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Peblig yw 4.
Cymuned Dolgellau: newidiadau i wardiau cymunedol
11.
Mae’r rhan o ward De Dolgellau o gymuned Dolgellau a ddangosir â llinellau ar Fap 10 wedi ei throsglwyddo i ward Gogledd Dolgellau o gymuned Dolgellau.
Cymuned Ffestiniog: newidiadau i wardiau cymunedol
12.
Mae’r rhan o ward Congl-y-wal o gymuned Ffestiniog a ddangosir â llinellau ar Fap 11 wedi ei throsglwyddo i ward Diffwys a Maenofferen o gymuned Ffestiniog.
Cymuned Ffestiniog: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol
13.
Yng nghymuned Ffestiniog—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Congl-y-wal yw 2;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Diffwys a Maenofferen yw 5.