Cymuned Bangor: diddymu ward gymunedol Deiniol a newidiadau i wardiau cymunedol4.

Mae ward Deiniol o gymuned Bangor, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu ac—

(a)

mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Hendre o gymuned Bangor;

(b)

mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Hirael o gymuned Bangor.