NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Caerffili. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 33 i 30, a lleihau nifer y cynghorwyr o 73 i 69.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i drefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Pontlotyn, Moriah a Thwyncarno yng nghymuned Rhymni.

Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Dewi Sant a Thwyncarno o gymuned Rhymni.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r map y mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn ymwneud ag ef wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.