(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Awst 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig cynyddu nifer y wardiau etholiadol o 20 i 21 a chynyddu nifer y cynghorwyr o 50 i 51.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiad.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ar gyfer newidiadau i ffiniau cymunedol a newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau yn Ninas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd.
Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng cymunedau Graig a Thŷ-du. Mae erthygl 5 yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Dwyrain Tŷ-du, Gogledd Tŷ-du a Gorllewin Tŷ-du o gymuned Tŷ-du.
Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng cymunedau Pilgwenlli a Stow Hill.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” a “2” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Dinas Casnewydd. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Dinas Casnewydd yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.