Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2)
At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3)
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Dinas Casnewydd;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 2 fap a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” a “2”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd3.
(1)
Mae wardiau etholiadol Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2)
Mae Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd wedi ei rhannu’n 21 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3)
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4)
Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5)
Cymunedau Graig a Thŷ-du: newidiadau i ffiniau cymunedol4.
Mae’r rhan o gymuned Graig a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i gymuned Tŷ-du, ac yn ffurfio rhan o ward Gorllewin Tŷ-du o gymuned Tŷ-du.
Cymuned Tŷ-du: newidiadau i drefniadau etholiadol5.
Yng nghymuned Tŷ-du—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Tŷ-du yw 4;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd Tŷ-du yw 4;
(c)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Tŷ-du yw 7.
Cymunedau Pilgwenlli a Stow Hill: newidiadau i ffiniau cymunedol6.
Mae’r rhan o gymuned Pilgwenlli a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i gymuned Stow Hill.