Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1546 (Cy. 144)) (“y Rheoliadau Hysbysu”), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136)) (“y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y Rheoliadau Cyfyngiadau”).
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofynion i archebu a chymryd profion am y coronafeirws yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol hefyd yn gwneud darpariaethau penodol ar gyfer “teithwyr rheoliad 2A”; gan gynnwys unigolion sydd wedi eu brechu’n llawn mewn gwledydd a thiriogaethau rhagnodedig.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, gan estyn y gydnabyddiaeth o frechiadau i ragor o wledydd a thiriogaethau.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn galluogi teithwyr rheoliad 2A i ddefnyddio profion dyfais llif unffordd (“LFD”) at ddibenion y Rheoliadau.
Mae rheoliad 6 yn cynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson gymryd prawf adwaith cadwynol polymerasau (“PCR”) cadarnhau pan fo’n cael canlyniad prawf positif ar brawf LFD, yn ogystal â chynnwys darpariaeth ar ofynion ynysu yn dilyn canlyniadau positif.
Mae rheoliad 8 yn cyflwyno trosedd am fethu â chymryd prawf PCR cadarnhau.
Mae rheoliadau 5, 7 i 9, ac 11 yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â chyflwyno profion LFD.
Mae rheoliad 10 yn diwygio Atodlen 1 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i ddileu’r gofyniad i deithwyr restru eu rhifau sedd ar Ffurflenni Lleoli Teithwyr.
Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol o fewn 10 niwrnod i gyrraedd, yn unol â rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 12 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A er mwyn dileu amrywiol wledydd o’r rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae rheoliad 12E yn gymwys iddynt.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Hysbysu, o ganlyniad i gyflwyno profion LFD yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i sicrhau yr hysbysir Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniadau profion.
Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr. Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd, o ganlyniad i’r diwygiadau o ran Ffurflenni Lleoli Teithwyr a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn rheoliad 10.
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 16A(12) o’r Rheoliadau Cyfyngiadau, gan estyn ymhellach y rhestr o wledydd a thiriogaethau yn y paragraff hwnnw fel bod tystiolaeth o frechu yn y gwledydd hynny â brechlynnau sydd wedi eu hawdurdodi yn y Deyrnas Unedig hefyd yn dderbyniol at ddibenion yr hyn a adwaenir yn gyffredin fel y pàs COVID. Mae angen y diwygiad er mwyn cynnal cysondeb â rheoliad 2A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.