Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Mewn perthynas â’r ddarpariaeth a wneir gan reoliad 18 o’r Rheoliadau hyn, yn unol ag adran 45Q(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.
RHAN 1Cyffredinol
Enwi a dod i rym1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliadau 3, 12 a 18, i rym am 4.00 a.m. ar 31 Hydref 2021.
(3)
Daw rheoliadau 3, 12 a 18 i rym am 4.00 a.m. ar 1 Tachwedd 2021.
RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202.
Diwygiadau i reoliad 2A3.
(1)
Mae rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
“(c)
mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall (gan gynnwys gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12)), a fyddai’n awdurdodedig fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (a)(i) neu (ii) pe bai’r dosau wedi eu cael yn y Deyrnas Unedig;”.
(3)
“Angola”
“Anguilla”
“Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus”
“Yr Ariannin”
“Armenia”
“Azerbaijan”
“Belize”
“Bermuda”
“Botswana”
“Cambodia”
“Costa Rica”
“De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De”
“Djibouti”
“Eswatini”
“Gibraltar”
“Guernsey”
“Guyana”
“Honduras”
“Jersey”
“Lesotho”
“Libanus”
“Madagascar”
“Mauritius”
“Mongolia”
“Montserrat”
“Nepal”
“Panama”
“Periw”
“Rwanda”
“Seychelles”
“Sierra Leone”
“Sri Lanka”
“St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”
“Suriname”
“Tanzania”
“Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig”
“Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India”
“Tiriogaethau Meddianedig Palesteina”
“Trinidad a Tobago”
“Tunisia”
“Uganda”
“Uruguay”
“Ynys Manaw”
“Ynysoedd Cayman”
“Ynysoedd Falkland”
“Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno”
“Ynysoedd Prydeinig y Wyryf”
“Ynysoedd Turks a Caicos ”.
Diwygiadau i reoliad 6AB4.
(1)
Mae rheoliad 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
“(a)
“prawf diwrnod 2”—
(i)
mewn cysylltiad â pherson nad yw rheoliad 2A yn gymwys iddo, yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno;
(ii)
mewn cysylltiad â theithiwr rheoliad 2A, yw—
(aa)
prawf a ddisgrifir yn is-baragraff (i), neu
(bb)
prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1ZB o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno;”.
Diwygiadau i reoliad 6DB5.
(1)
Mae rheoliad 6DB (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn y pennawd, hepgorer “o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr”.
(3)
“(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i deithiwr rheoliad 2A (“P”) y mae rheoliad 6AB(1) yn gymwys iddo.”
(4)
Ym mharagraff (5)(a), yn lle “ym mharagraff 1 o Atodlen 1C” rhodder “yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)”.
Amnewid rheoliad 6E6.
“Goblygiadau canlyniad prawf positif6E.
(1)
Pan fo prawf a gymerir gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 6AB yn bositif ac—
(a)
bo P yn berson y mae rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, mae paragraffau (2) a (7) yn gymwys;
(b)
bo P yn deithiwr rheoliad 2A—
(i)
pan fo’r prawf yn brawf PCR diwrnod 2, mae paragraffau (3) a (7) yn gymwys;
(ii)
pan fo’r prawf yn brawf LFD diwrnod 2, mae paragraffau (4), (5) a (7) yn gymwys.
(2)
Diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).
(3)
Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf.
(4)
Rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gymryd prawf cadarnhau a ddarperir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y paragraff hwn.
(5)
Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan y cynharaf o’r canlynol—
(a)
diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf LFD diwrnod 2;
(b)
yr adeg yr hysbysir P bod canlyniad y prawf cadarnhau a gymerwyd yn unol â pharagraff (4) yn negyddol.
(6)
Yn y rheoliad hwn, bernir bod person yn cael hysbysiad o ganlyniad mewn perthynas â phrawf LFD diwrnod 2 pan fydd y person yn penderfynu ar y canlyniad yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf.
(7)
Nid yw rheoliad 10(3) (gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P pan fydd P yn gadael Cymru) o’r Rheoliadau hyn ac, yn ddarostyngedig i reoliad 6I, rheoliad 6 neu 7, fel y bo’n briodol, o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws yn gymwys mewn perthynas â P.
(8)
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “prawf LFD diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb);
ystyr “prawf PCR diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(aa).”
Diwygiadau i reoliad 6HB7.
(1)
Mae rheoliad 6HB (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn y pennawd, hepgorer “o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr”.
(3)
“(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i deithiwr rheoliad 2A (“P”) y mae rheoliad 6AB(1) yn gymwys iddo.”
(4)
Ym mharagraff (5)(a), yn lle “ym mharagraff 1 o Atodlen 1C” rhodder “yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)”.
Diwygiadau i reoliad 148.
(1)
Mae rheoliad 14 (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
“(ha)
6E(4);”.
(3)
Ym mharagraff (1D), ar ôl “6AB” mewnosoder “neu 6E(4)”.
Diwygiadau i reoliad 169.
Yn rheoliad 16(6AB) (hysbysiadau cosb benodedig)—
(a)
yn y geiriau agoriadol, ar ôl “rheoliad 14(1)(h)” mewnosoder “neu (ha)”;
(b)
yn is-baragraff (b), ar ôl “6AB(7)” mewnosoder “neu 6E(4)”;
(c)
yn is-baragraff (c), ar ôl “6AB(7)” mewnosoder “neu 6E(4)”.
Diwygiadau i Atodlen 110.
Ym mharagraff 2 o Atodlen 1 (gwybodaeth am deithiwr), hepgorer is-baragraffau (e) a (k)(iv).
Diwygiadau i Atodlen 1C11.
(1)
Mae Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“Profion diwrnod 2: gofynion cyffredinol ar gyfer profion dyfais llif unffordd1ZB.
(1)
Mae prawf diwrnod 2 yn cydymffurfio â’r paragraff hwn pan fo’r prawf yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) a phan fo—
(a)
yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf cyhoeddus; neu
(b)
yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf preifat pan fo’r darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â pharagraff 1ZC.
(2)
Mae prawf yn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn—
(a)
pan fo’n brawf ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n defnyddio un neu ragor o’r canlynol—
(i)
swabio’r trwyn yn y cogwrn canol neu ym mlaen y ffroenau;
(ii)
swabio’r tonsiliau;
(iii)
poer;
(b)
pan fo modd ei adnabod yn unigryw;
(c)
pan fo wedi ei ddarparu yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf, gan gynnwys, yn benodol, cyfarwyddiadau o ran y defnydd targed, y defnyddiwr targed a gosodiadau’r defnydd targed; a
(d)
pan fo unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf yn gallu cael ei defnyddio yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 20023, ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 39(2) o’r Rheoliadau hynny yn unig.Profion diwrnod 2: gofynion darparwr prawf preifat ar gyfer profion dyfais llif unffordd1ZC.
(1)
Mae darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—
(a)
pan fo’n cydymffurfio â gofynion paragraff 1ZA(1)(a) i (e) ac (h);
(b)
pan fo wedi gwneud datganiad i’r Ysgrifennydd Gwladol ei fod yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer profion a ddarperir gan y sector preifat a gyhoeddwyd ar gov.uk/guidance/day-2-lateral-flow-tests-for-international-arrivals-minimum-standards-for-providers ar 21 Hydref 2021 a bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cadarnhau yn ysgrifenedig ei fod yn ystyried bod y darparwr yn bodloni’r safonau hynny;
(c)
pan fo’n parhau i fodloni’r safonau gofynnol y mae’r datganiad a grybwyllir ym mharagraff (b) yn ymwneud â hwy;
(d)
pan fo wedi darparu i’r Ysgrifennydd Gwladol restr o’r holl sefydliadau y mae’n gweithio gyda hwy (boed drwy is-gontract neu fel arall) i gynnal y gwasanaeth profi, gan nodi natur y gwasanaeth y mae pob sefydliad yn ei ddarparu, ac wedi diweddaru’r rhestr honno fel y bo’n briodol;
(e)
pan fo’n cael yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6AB(5), ac os yw’n gweinyddu’r prawf i P, ei fod yn gwneud hynny heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;
(f)
pan fo ganddo system ar waith i wrthod canlyniadau gan ddyfeisiau a ddefnyddiwyd yn flaenorol;
(g)
pan fo, bob dydd, yn hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifenedig—
(i)
am nifer y profion y mae wedi eu gwerthu ar y diwrnod hwnnw, a
(ii)
mewn perthynas â phob prawf a werthwyd ar y diwrnod hwnnw—
(aa)
am y dyddiad y cyrhaeddodd y person y gwerthwyd y prawf mewn cysylltiad ag ef y Deyrnas Unedig,
(bb)
a yw’n brawf adwaith cadwynol polymerasau neu’n brawf dyfais llif unffordd, ac
(cc)
am y cyfeirnod prawf a roddwyd i P yn unol â rheoliad 6AB(6);
(iii)
mewn perthynas â phob prawf y canslwyd ei bryniant ar y diwrnod hwnnw, yr wybodaeth a nodir yn is-baragraff (ii)(aa) i (cc);
(h)
os yw’n trefnu gyda pherson arall (“X”) i X gyflawni unrhyw elfen o’r un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd ar ei ran, pan fo’r darparwr prawf yn sicrhau bod X yn cydymffurfio â’r canlynol i’r graddau y maent yn berthnasol i gyflawni’r elfen honno—
(i)
paragraff 1ZA(1)(b) i (e) ac (h) fel y’i cymhwysir gan baragraff (a) o’r is-baragraff hwn;
(ii)
paragraff (c) i (g) o’r is-baragraff hwn;
(iii)
paragraff 2D(2) a (4).
(2)
At ddibenion is-baragraff (1)(h), ystyr “un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd” yw gwasanaeth sy’n cwmpasu unrhyw un neu ragor o’r elfennau a ganlyn pan fônt yn rhan o’r gwasanaeth a gynigir gan y darparwr prawf—
(a)
derbyn yr archeb gan y person sydd i’w brofi;
(b)
darparu’r prawf;
(c)
casglu a phrosesu’r prawf wedi iddo gael ei gymryd;
(d)
dadansoddi’r prawf;
(e)
gwirio canlyniad y prawf;
(f)
darparu hysbysiad o ganlyniad y prawf.”
(3)
“1A.
Yr amgylchiadau a grybwyllir yn rheoliad 6AB(2)(a) yw—
(a)
bod P yn cymryd prawf diwrnod 2 heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru, a
(b)
mewn perthynas â phrawf a ddisgrifir yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) nad yw wedi ei weinyddu gan ddarparwr prawf, fod P yn darparu i’r darparwr prawf yr wybodaeth a ganlyn o fewn 15 munud i amser darllen y prawf fel y’i pennir gan gyfarwyddiadau defnyddio y gweithgynhyrchydd—
(i)
tystiolaeth ffotograffig sy’n dangos yn glir—
(aa)
y ddyfais brofi yn y fath fodd fel y gellir ei hadnabod fel un sydd wedi ei darparu gan y darparwr prawf,
(bb)
cyfeirnod y prawf a roddwyd yn unol â rheoliad 6AB(6), ac
(cc)
canlyniad y prawf, a
(ii)
y cyfeiriad y gall P gael prawf cadarnhau ynddo yn unol â rheoliad 6E(4).”
(4)
“Hysbysu am ganlyniadau profion: profion dyfais llif unffordd2D.
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddarparwr prawf preifat sy’n gweinyddu neu’n darparu prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) i P o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A.
(2)
Rhaid i’r darparwr prawf preifat, o fewn 24 awr i’r digwyddiad perthnasol—
(a)
hysbysu P a, phan fo’n gymwys, unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy e-bost, llythyr neu neges destun, am ganlyniad prawf P, neu
(b)
peri bod canlyniad prawf P ar gael i P a, phan fo’n gymwys, i unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy borthol diogel ar y we,
yn unol ag is-baragraff (4).
(3)
Ym mharagraff (2), ystyr “digwyddiad perthnasol” yw—
(a)
pan weinyddodd y darparwr prawf y prawf, yr adeg y penderfynodd y darparwr prawf ar ganlyniadau’r prawf;
(b)
pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, yr adeg y cafodd y darparwr prawf yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b).
(4)
Rhaid i’r hysbysiad am ganlyniad prawf P gynnwys enw, dyddiad geni, rhif pasbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol) P, enw a manylion cyswllt y darparwr prawf a chyfeirnod prawf P, a rhaid ei gyfleu mewn modd sy’n hysbysu P a oedd y prawf yn negyddol, yn bositif, neu’n amhendant.”
(5)
Ym mharagraff 3(d), ar ôl “ystyr “un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd””, mewnosoder “, ac eithrio ym mharagraff 1ZC(1)(h),”.
Diwygiadau i Atodlen 3A12.
“Colombia”
“Ecuador”
“Gweriniaeth Dominica”
“Haiti”
“Gweriniaeth Panamá”
“Periw”
“Venezuela” .
RHAN 3Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 201013.
Diwygiadau i reoliad 4A14.
(1)
Mae rheoliad 4A (dyletswydd ar weithredwyr labordai diagnostig i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am brofion SARS-CoV-2 neu firws y ffliw a brosesir) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Ym mharagraff (1), ar ôl “SARS-CoV-2” mewnosoder “, ac eithrio prawf y mae rheoliad 4AB yn gymwys mewn perthynas ag ef,”.
(3)
Ym mharagraff (3)(a), ar ôl “SARS-CoV-2” mewnosoder “, ac eithrio prawf y mae rheoliad 4AB yn gymwys mewn perthynas ag ef,”.
Mewnosod rheoliad 4AB
(4)
“Dyletswydd i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniadau profion dyfais llif unffordd a gymerir gan deithwyr cymwys4AB.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo darparwr prawf yn gweinyddu neu’n darparu prawf ar gyfer canfod SARS-CoV-2 yn unol â rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) (profion dyfais llif unffordd) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(2)
Rhaid i’r darparwr prawf hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniad y prawf yn unol â pharagraffau (3) i (5).
(3)
Rhaid darparu hysbysiad mewn ysgrifen—
(a)
pan weinyddodd y darparwr prawf y prawf, o fewn 24 awr i benderfynu ar ganlyniad y prawf;
(b)
pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, o fewn 24 awr i gael yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b) o Atodlen 1C i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(4)
Rhaid i hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol, i’r graddau y mae’n hysbys i’r darparwr prawf—
(a)
mewn perthynas â’r person a gymerodd y prawf (“P”)—
(i)
ei enw cyntaf;
(ii)
ei gyfenw;
(iii)
ei ryw;
(iv)
ei ddyddiad geni;
(v)
ei rif GIG;
(vi)
ei ethnigrwydd;
(vii)
ei gyfeiriad cartref (gan gynnwys y cod post);
(viii)
y cyfeiriad a ddarperir i’r darparwr prawf fel y man lle y gall P gael prawf cadarnhau;
(ix)
ei rif teleffon a’i gyfeiriad e-bost, pan fo canlyniad y prawf yn bositif neu’n amhenodol;
(b)
pa un a yw P wedi cael brechlyn yn erbyn SARS-CoV-2 ai peidio;
(c)
rhif pasbort P neu rif dogfen deithio P (fel y bo’n briodol);
(d)
rhif coets, rhif hediad, neu enw llestr y cludiant y cyrhaeddodd P Gymru arno;
(e)
cyfeirnod y prawf a roddwyd i P yn unol â rheoliad 6AB(6) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
(f)
y wlad neu’r diriogaeth yr oedd P yn teithio ohoni pan gyrhaeddodd P Gymru, ac unrhyw wlad neu diriogaeth y tramwyodd drwyddi fel rhan o’r daith honno;
(g)
y dyddiad y cymerodd P y prawf;
(h)
cadarnhad bod y prawf yn cydymffurfio â’r gofynion sy’n gymwys o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol a’i fod wedi ei gymryd yn unol â hwy;
(i)
cadarnhad bod y prawf yn brawf dyfais llif unffordd a gymerwyd gan deithiwr rheoliad 2A o fewn ystyr y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
(j)
pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, y dyddiad a’r amser y cafodd y darparwr prawf yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b) o Atodlen 1C i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
(k)
yr wybodaeth ganlynol ynghylch y prawf—
(i)
enw’r darparwr prawf a disgrifiad o’i weithrediadau;
(ii)
rhif y sbesimen;
(iii)
y math o sbesimen;
(iv)
dyddiad y sbesimen;
(v)
y dull profi;
(vi)
y canlyniad;
(vii)
y dyddiad y cynhaliwyd y prawf;
(viii)
enw gweithgynhyrchydd y cyfarpar profi.
(5)
Pan fo P yn blentyn, neu’n berson sydd ag anabledd sy’n analluog am y rheswm hwnnw i ddarparu’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(a) i’r darparwr prawf, rhaid i’r darparwr prawf ddarparu i Iechyd Cyhoeddus Cymru, i’r graddau y mae’n hysbys i’r darparwr prawf—
(a)
yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(a)(i) i (viii) mewn perthynas â P, ar ôl ei chael oddi wrth riant, gwarcheidwad neu ofalwr priodol i P (“X”); a
(b)
pan fo canlyniad y prawf yn bositif neu’n amhenodol, rhif teleffon a chyfeiriad e-bost X.
(6)
Mae’n dramgwydd i ddarparwr prawf fethu â chydymffurfio â’r rheoliad hwn heb esgus rhesymol.
(7)
Mae darparwr prawf sy’n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
(8)
Yn y rheoliad hwn, mae i “anabledd”, “gofalwr”, “gwarcheidwad”, “Iechyd Cyhoeddus Cymru”, “plentyn”, “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” a “rhiant” yr ystyron a roddir yn rheoliad 4A.”
Diwygiadau i reoliad 515.
(1)
Mae rheoliad 5 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i’r swyddog priodol neu Iechyd Cyhoeddus Cymru) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Ym mharagraff (1), ar ôl “4A,” mewnosoder “4AB,”.
(3)
Ym mharagraff (2A), ar ôl “4A(3),” mewnosoder “4AB(4),”.
Diwygiad i reoliad 716.
Yn rheoliad 7(1)(a) (cyfathrebiadau electronig), ar ôl “4A(1),” mewnosoder “4AB,”.
RHAN 4Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 202017.
“(a)
pan ddarperir yr wybodaeth drwy neges destun neu hysbysiad gwthio, testun sydd—
(i)
yn hysbysu P am y gofyniad i ddarparu gwybodaeth,
(ii)
yn hysbysu P bod cosbau yn gymwys am fethu â chydymffurfio â’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth,
(iii)
yn cynnwys dolen i https://www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk,
(iv)
yn hysbysu P am y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol yn unol â rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, a
(v)
yn hysbysu P am y gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru yn unol â rheoliad 6AB o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;”.
RHAN 5Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 202018.
“Angola”
“Anguilla”
“Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus”
“Yr Ariannin”
“Armenia”
“Azerbaijan”
“Belize”
“Bermuda”
“Botswana”
“Cambodia”
“Costa Rica”
“De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De”
“Djibouti”
“Eswatini”
“Gibraltar”
“Guernsey”
“Guyana”
“Honduras”
“Jersey”
“Lesotho”
“Libanus”
“Madagascar”
“Mauritius”
“Mongolia”
“Montserrat”
“Nepal”
“Panama”
“Periw”
“Rwanda”
“Seychelles”
“Sierra Leone”
“Sri Lanka”
“St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”
“Suriname”
“Tanzania”
“Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig”
“Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India”
“Tiriogaethau Meddianedig Palesteina”
“Trinidad a Tobago”
“Tunisia”
“Uganda”
“Uruguay”
“Ynys Manaw”
“Ynysoedd Cayman”
“Ynysoedd Falkland”
“Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno”
“Ynysoedd Prydeinig y Wyryf”
“Ynysoedd Turks a Caicos”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1546 (Cy. 144)) (“y Rheoliadau Hysbysu”), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136)) (“y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y Rheoliadau Cyfyngiadau”).
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofynion i archebu a chymryd profion am y coronafeirws yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol hefyd yn gwneud darpariaethau penodol ar gyfer “teithwyr rheoliad 2A”; gan gynnwys unigolion sydd wedi eu brechu’n llawn mewn gwledydd a thiriogaethau rhagnodedig.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, gan estyn y gydnabyddiaeth o frechiadau i ragor o wledydd a thiriogaethau.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn galluogi teithwyr rheoliad 2A i ddefnyddio profion dyfais llif unffordd (“LFD”) at ddibenion y Rheoliadau.
Mae rheoliad 6 yn cynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson gymryd prawf adwaith cadwynol polymerasau (“PCR”) cadarnhau pan fo’n cael canlyniad prawf positif ar brawf LFD, yn ogystal â chynnwys darpariaeth ar ofynion ynysu yn dilyn canlyniadau positif.
Mae rheoliad 8 yn cyflwyno trosedd am fethu â chymryd prawf PCR cadarnhau.
Mae rheoliadau 5, 7 i 9, ac 11 yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â chyflwyno profion LFD.
Mae rheoliad 10 yn diwygio Atodlen 1 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i ddileu’r gofyniad i deithwyr restru eu rhifau sedd ar Ffurflenni Lleoli Teithwyr.
Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol o fewn 10 niwrnod i gyrraedd, yn unol â rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 12 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A er mwyn dileu amrywiol wledydd o’r rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae rheoliad 12E yn gymwys iddynt.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Hysbysu, o ganlyniad i gyflwyno profion LFD yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i sicrhau yr hysbysir Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniadau profion.
Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr. Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd, o ganlyniad i’r diwygiadau o ran Ffurflenni Lleoli Teithwyr a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn rheoliad 10.
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 16A(12) o’r Rheoliadau Cyfyngiadau, gan estyn ymhellach y rhestr o wledydd a thiriogaethau yn y paragraff hwnnw fel bod tystiolaeth o frechu yn y gwledydd hynny â brechlynnau sydd wedi eu hawdurdodi yn y Deyrnas Unedig hefyd yn dderbyniol at ddibenion yr hyn a adwaenir yn gyffredin fel y pàs COVID. Mae angen y diwygiad er mwyn cynnal cysondeb â rheoliad 2A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.