Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Ionawr 2021.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

4

Yn y Rheoliadau hyn, mae i “tŷ annedd” yr un ystyr ag a roddir i “dwelling-house” yn Neddf Tai 19853, Deddf Tai 19884 neu Ddeddf Rhenti 19775, yn ôl y digwydd.