Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 119 (Cy. 32)

Treth Trafodiadau Tir, Cymru

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

3 Chwefror 2021

Yn dod i rym

4 Chwefror 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 a pharagraff 36(1)(b) o Atodlen 6 iddi(1).

Yn unol ag adran 79(2) o’r Ddeddf honno, cafodd drafft o’r Rheoliadau hyn ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddi(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

Dehongli

2.  Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

Cymhwyso

3.  Mae’r diwygiad a wneir gan reoliad 4 yn gymwys i’r trafodiadau hynny sydd â dyddiad effeithiol sy’n digwydd ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn unig.

Diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018

4.—(1Mae Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (swm penodedig o rent perthnasol), yn lle “£9,000” gosoder “£13,500”.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

3 Chwefror 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) er mwyn diwygio swm y rhent perthnasol a bennir yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau hynny.

Mae Rheoliadau 2018 yn pennu swm y rhent perthnasol o dan baragraff 36(1)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, at ddibenion diffinio “y swm penodedig” ym mharagraffau 34 a 35 o’r Atodlen honno.

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio swm y rhent perthnasol a bennir yn rheoliad 2 o Reoliadau 2018 o £9,000 i £13,500 o’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym. O ran trafodiadau â dyddiad effeithiol sy’n digwydd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, bydd y swm blaenorol o £9,000 yn dal yn gymwys.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.

(2)

Mae’r cyfeiriad yn adran 79(2) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).