- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Treth Trafodiadau Tir, Cymru
Gwnaed
3 Chwefror 2021
Yn dod i rym
4 Chwefror 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 a pharagraff 36(1)(b) o Atodlen 6 iddi(1).
Yn unol ag adran 79(2) o’r Ddeddf honno, cafodd drafft o’r Rheoliadau hyn ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddi(2).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
2. Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
3. Mae’r diwygiad a wneir gan reoliad 4 yn gymwys i’r trafodiadau hynny sydd â dyddiad effeithiol sy’n digwydd ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn unig.
4.—(1) Mae Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (swm penodedig o rent perthnasol), yn lle “£9,000” gosoder “£13,500”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) er mwyn diwygio swm y rhent perthnasol a bennir yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau hynny.
Mae Rheoliadau 2018 yn pennu swm y rhent perthnasol o dan baragraff 36(1)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, at ddibenion diffinio “y swm penodedig” ym mharagraffau 34 a 35 o’r Atodlen honno.
Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio swm y rhent perthnasol a bennir yn rheoliad 2 o Reoliadau 2018 o £9,000 i £13,500 o’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym. O ran trafodiadau â dyddiad effeithiol sy’n digwydd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, bydd y swm blaenorol o £9,000 yn dal yn gymwys.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.
Mae’r cyfeiriad yn adran 79(2) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: