2021 Rhif 119 (Cy. 32)
Treth Trafodiadau Tir, Cymru

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 a pharagraff 36(1)(b) o Atodlen 6 iddi1.
Yn unol ag adran 79(2) o’r Ddeddf honno, cafodd drafft o’r Rheoliadau hyn ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddi2.