2021 Rhif 1189 (Cy. 297)
Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59 a 74(1)(c) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, a thrwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 61Z(8) a (9), 62R a 333(4B) o’r Ddeddf honno3, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym fel a ganlyn—
a
daw’r erthygl hon, erthygl 2(1), (2)(a) a (3)(b) ac erthygl 3(1), (2)(a) a (3) i rym ar 1 Rhagfyr 2021;
b
daw erthygl 2(2)(b), (3)(a) ac (c) ac erthygl 3(2)(b) i rym ar 24 Ionawr 2022.
3
Pan fo—
a
cais am ganiatâd cynllunio wedi ei gyflwyno cyn 25 Ebrill 2022; a
b
yn ofynnol i’r ceisydd fod wedi ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub yn unol ag erthygl 2D o Orchymyn 2012 ond nad yw wedi gwneud hynny;
mae’r ceisydd i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion erthyglau 2D a 2F o Orchymyn 2012 mewn cysylltiad â’r gofyniad i ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub perthnasol.
4
Pan fo cais am ganiatâd cynllunio wedi ei wneud cyn 25 Ebrill 2022, nid yw erthygl 14(1) o Orchymyn 2012 yn gymwys i’r graddau y bo’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub.
5
Nid yw erthygl 3(2)(b) yn gymwys i—
a
ceisiadau arfaethedig yr hysbysir Gweinidogion Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol amdanynt yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn 2016 cyn 24 Ionawr 2022;
b
ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 cyn 24 Ionawr 2022.
6
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 19904;
ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 20125;
ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 20166.
Diwygio Gorchymyn 20122
1
Mae Atodlen 4 i Orchymyn 2012 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn y tabl—
a
yn lle rhes (x) rhodder—
(x)
Datblygiad—
- i
ar dir o fewn Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 3;
- ii
ar dir o fewn Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 2;
- iii
ar dir o fewn Parthau Amddiffynedig TAN 15.
Corff Adnoddau Naturiol Cymru
b
ar ôl rhes (y) mewnosoder—
(z)
Datblygiad sy’n ymwneud ag—
i
datblygiad gwastraff;
ii
darparu tai annedd pan fo naill ai nifer y tai annedd sydd i’w darparu yn 10 neu ragor neu pan fwriedir cyflawni’r datblygiad ar safle sydd â’i arwynebedd yn 0.5 hectar neu fwy ac nad yw’n hysbys a yw nifer y tai annedd sydd i’w darparu yn 10 neu ragor;
iii
darparu adeilad neu adeiladau lle mae’r arwynebedd llawr y bwriedir ei greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu ragor;
iv
datblygiad a gyflawnir ar safle sydd â’i arwynebedd yn 1 hectar neu fwy;
v
darparu 10 neu ragor o fflatiau (boed hynny drwy gynyddu nifer y fflatiau mewn adeilad presennol neu fel arall);
vi
darparu llety preswyl ac ynddo 10 neu ragor o ystafelloedd, nad ydynt wedi eu cynnwys mewn tai annedd neu fflatiau, nad ydynt yn cael eu defnyddio yn unig at ddibenion coginio ac nad ydynt yn gyfleusterau toiled, yn ystafelloedd gwasanaeth, yn goridorau, yn ystafelloedd golchi dillad, yn gynteddau neu’n ystafelloedd amlbwrpas; neu
vii
darparu llety preswyl ac ynddo 10 neu ragor o ystafelloedd sydd wedi eu cynnwys mewn tŷ annedd neu fflat a ddefnyddir fel tŷ amlfeddiannaeth, nad ydynt yn cael eu defnyddio yn unig at ddibenion coginio ac nad ydynt yn gyfleusterau toiled, yn ystafelloedd gwasanaeth, yn goridorau, yn ystafelloedd golchi dillad, yn gynteddau neu’n ystafelloedd amlbwrpas.
Yr Awdurdod Tân ac Achub perthnasol
3
O dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”—
a
ar ddiwedd paragraff (m) hepgorer “ac”;
b
yn lle paragraff (n) rhodder—
n
ym mharagraff (x)—
ystyr “Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 3” (“Rivers and Sea –Flood Zone 3”) yw ardal lle y mae mwy nag 1 siawns mewn 100 o lifogydd o afonydd a mwy nag 1 siawns mewn 200 o lifogydd o’r môr mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd;
ystyr “Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 2” (“Rivers and Sea – Flood Zone 2”) yw ardal lle y mae llai nag 1 siawns mewn 100 o lifogydd o afonydd a llai nag 1 siawns mewn 200 o lifogydd o’r môr ond mwy nag 1 siawns mewn 1000 o lifogydd o’r afonydd a’r môr mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd; ac
ystyr “Parthau Amddiffynnol TAN 15” (“TAN 15 Defended Zones”) yw ardaloedd lle y mae seilwaith rheoli perygl llifogydd yn darparu safon ofynnol o ddiogelwch rhag llifogydd o 1 mewn 100 o afonydd ac 1 mewn 200 o’r môr (ynghyd â newid yn yr hinsawdd a bwrdd rhydd) fel y nodir yn y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio a gyhoeddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru;;
c
ar ôl paragraff (n) mewnosoder—
o
ym mharagraff (z) nid yw “tŷ amlfeddiannaeth” yn cynnwys bloc o fflatiau wedi ei drosi y mae adran 257 o Ddeddf Tai 2004 yn gymwys iddo ond fel arall mae iddo yr un ystyr ag a roddir i “house in multiple occupation” yn adran 254 o Ddeddf Tai 2004.
Diwygio Gorchymyn 20163
1
Mae Atodlen 5 i Orchymyn 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn y tabl—
a
yn lle rhes (u) rhodder—
(u)
Datblygiad—
i
ar dir o fewn Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 3;
ii
ar dir o fewn Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 2;
iii
ar dir o fewn Parthau Amddiffynedig TAN 15.
Corff Adnoddau Naturiol Cymru
b
ar ôl rhes (v) mewnosoder—
(w)
Datblygiad sy’n ymwneud ag—
i
datblygiad gwastraff;
ii
darparu adeilad neu adeiladau lle mae’r arwynebedd llawr y bwriedir ei greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu ragor; neu
iii
datblygiad a gyflawnir ar safle sydd ag arwynebedd o 1 hectar neu ragor.
Yr Awdurdod Tân ac Achub perthnasol
3
O dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”, yn lle paragraff (j) rhodder—
ym mharagraff (u)—
i
ystyr “Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 3” (“Rivers and Sea –Flood Zone 3”) yw ardal lle y mae mwy nag 1 siawns mewn 100 o lifogydd o afonydd a mwy nag 1 siawns mewn 200 o lifogydd o’r môr mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd;
ii
ystyr “Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 2” (“Rivers and Sea – Flood Zone 2”) yw ardal lle y mae llai nag 1 siawns mewn 100 o lifogydd o afonydd a llai nag 1 siawns mewn 200 o lifogydd o’r môr ond mwy nag 1 siawns mewn 1000 o lifogydd o’r afonydd a’r môr mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd; a
iii
ystyr “Parthau Amddiffynnol TAN 15” (“TAN 15 Defended Zones”) yw ardaloedd lle y mae seilwaith rheoli perygl llifogydd yn darparu safon ofynnol o ddiogelwch rhag llifogydd o 1 mewn 100 o afonydd ac 1 mewn 200 o’r môr (ynghyd â newid yn yr hinsawdd a bwrdd rhydd) fel y nodir yn y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio a gyhoeddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)