2.—(1) Mae Atodlen 4 i Orchymyn 2012 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y tabl—
F1(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(b)ar ôl rhes (y) mewnosoder—
| “(z) | Datblygiad sy’n ymwneud ag— (i)datblygiad gwastraff; (ii)darparu tai annedd pan fo naill ai nifer y tai annedd sydd i’w darparu yn 10 neu ragor neu pan fwriedir cyflawni’r datblygiad ar safle sydd â’i arwynebedd yn 0.5 hectar neu fwy ac nad yw’n hysbys a yw nifer y tai annedd sydd i’w darparu yn 10 neu ragor; (iii)darparu adeilad neu adeiladau lle mae’r arwynebedd llawr y bwriedir ei greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu ragor; (iv)datblygiad a gyflawnir ar safle sydd â’i arwynebedd yn 1 hectar neu fwy; (v)darparu 10 neu ragor o fflatiau (boed hynny drwy gynyddu nifer y fflatiau mewn adeilad presennol neu fel arall); (vi)darparu llety preswyl ac ynddo 10 neu ragor o ystafelloedd, nad ydynt wedi eu cynnwys mewn tai annedd neu fflatiau, nad ydynt yn cael eu defnyddio yn unig at ddibenion coginio ac nad ydynt yn gyfleusterau toiled, yn ystafelloedd gwasanaeth, yn goridorau, yn ystafelloedd golchi dillad, yn gynteddau neu’n ystafelloedd amlbwrpas; neu (vii)darparu llety preswyl ac ynddo 10 neu ragor o ystafelloedd sydd wedi eu cynnwys mewn tŷ annedd neu fflat a ddefnyddir fel tŷ amlfeddiannaeth, nad ydynt yn cael eu defnyddio yn unig at ddibenion coginio ac nad ydynt yn gyfleusterau toiled, yn ystafelloedd gwasanaeth, yn goridorau, yn ystafelloedd golchi dillad, yn gynteddau neu’n ystafelloedd amlbwrpas. | Yr Awdurdod Tân ac Achub perthnasol” |
(3) O dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”—
(a)ar ddiwedd paragraff (m) hepgorer “ac”;
F2(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(c)ar ôl paragraff (n) mewnosoder—
“(o)ym mharagraff (z) nid yw “tŷ amlfeddiannaeth” yn cynnwys bloc o fflatiau wedi ei drosi y mae adran 257 o Ddeddf Tai 2004 yn gymwys iddo ond fel arall mae iddo yr un ystyr ag a roddir i “house in multiple occupation” yn adran 254 o Ddeddf Tai 2004.”
Diwygiadau Testunol
F1Ergl. 2(2)(a) wedi ei hepgor (25.11.2021) yn rhinwedd Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/1297), erglau. 1(2), 2(3)(a)
F2Ergl. 2(3)(b) wedi ei hepgor (25.11.2021) yn rhinwedd Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/1297), erglau. 1(2), 2(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 2(1) mewn grym ar 1.12.2021, gweler ergl. 1(2)(a)
I2Ergl. 2(2)(b)(3)(a)(c) mewn grym ar 24.1.2022, gweler ergl. 1(2)(b)