Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym fel a ganlyn—

[F1(a)daw’r erthygl hon ac erthyglau 2(1) a 3(1) i rym ar 1 Rhagfyr 2021;]

(b)daw erthygl 2(2)(b), (3)(a) ac (c) ac erthygl 3(2)(b) i rym ar 24 Ionawr 2022.

(3Pan fo—

(a)cais am ganiatâd cynllunio wedi ei gyflwyno cyn 25 Ebrill 2022; a

(b)yn ofynnol i’r ceisydd fod wedi ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub yn unol ag erthygl 2D o Orchymyn 2012 ond nad yw wedi gwneud hynny;

mae’r ceisydd i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion erthyglau 2D a 2F o Orchymyn 2012 mewn cysylltiad â’r gofyniad i ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub perthnasol.

(4Pan fo cais am ganiatâd cynllunio wedi ei wneud cyn 25 Ebrill 2022, nid yw erthygl 14(1) o Orchymyn 2012 yn gymwys i’r graddau y bo’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub.

(5Nid yw erthygl 3(2)(b) yn gymwys i—

(a)ceisiadau arfaethedig yr hysbysir Gweinidogion Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol amdanynt yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn 2016 cyn 24 Ionawr 2022;

(b)ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 cyn 24 Ionawr 2022.

(6Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1);

ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(2);

ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016(3).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 1.12.2021, gweler ergl. 1(2)(a)