Gorchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2)
At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3)
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Penfro;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 10 map a farciwyd “Map o Orchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “10”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Benfro3.
(1)
Mae wardiau etholiadol Sir Benfro, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2)
Mae Sir Benfro wedi ei rhannu’n 59 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3)
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4)
Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5)
Cymuned Aberdaugleddau: newidiadau i wardiau cymunedol4.
Yng nghymuned Aberdaugleddau—
(a)
mae’r rhan o ward Hakin a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Aberdaugleddau;
(b)
mae’r rhan o ward Hubberston a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Hakin;
(c)
mae’r rhan o ward Gogledd Aberdaugleddau a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Aberdaugleddau.
Cymuned Penfro: newidiadau i wardiau cymunedol5.
Mae’r rhan o ward gymunedol St Michael o gymuned Penfro a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol De St Mary o gymuned Penfro.
Cymuned Penfro: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol6.
Yng nghymuned Penfro—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De St Mary yw 4;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward St Michael yw 4.
Cymuned Doc Penfro: diddymu wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a Llanion a chreu wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a Bush7.
(1)
Mae wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a Llanion yng nghymuned Doc Penfro, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2)
Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio—
(a)
ward Canol Doc Penfro a ddangosir â llinellau ar Fap 5;
(b)
ward Bush a ddangosir â llinellau ar Fap 6.
Cymuned Doc Penfro: diddymu ward gymunedol Pennar a chreu wardiau cymunedol Pennar a Bufferland8.
(1)
Mae ward gymunedol Pennar yng nghymuned Doc Penfro, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu.
(2)
Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio—
(a)
ward Pennar a ddangosir â llinellau ar Fap 7;
(b)
ward Bufferland a ddangosir â llinellau ar Fap 8.
Cymuned Doc Penfro: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol9.
Yng nghymuned Doc Penfro—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bufferland yw 3;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bush yw 3;
(c)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Doc Penfro yw 4;
(d)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pennar yw 3.
Cymuned Saundersfoot: creu wardiau cymunedol10.
Mae cymuned Saundersfoot i’w rhannu i ffurfio’r wardiau cymunedol a ganlyn—
(a)
ward Gogledd Saundersfoot a ddangosir â llinellau ar Fap 9;
(b)
ward De Saundersfoot a ddangosir â llinellau ar Fap 10.
Cymuned Saundersfoot: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol11.
Yng nghymuned Saundersfoot—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd Saundersfoot yw 4;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Saundersfoot yw 8.
YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Amroth and Saundersfoot North | Amroth a Gogledd Saundersfoot | Cymuned Amroth a ward Gogledd Saundersfoot o gymuned Saundersfoot | 1 |
Boncath and Clydau | Boncath a Chlydau | Cymunedau Boncath, Maenordeifi a Chlydau | 1 |
Burton | Burton | Cymunedau Burton a Rosemarket | 1 |
Bro Gwaun | Bro Gwaun | Cymunedau Cwm Gwaun, Cas-mael a Sgleddau | 1 |
Camrose | Camros | Cymuned Camros | 1 |
Carew and Jeffreyston | Caeriw a Jeffreyston | Cymunedau Caeriw a Jeffreyston | 1 |
Cilgerran and Eglwyswrw | Cilgerran ac Eglwyswrw | Cymunedau Cilgerran ac Eglwyswrw | 1 |
Crymych and Mynachlog-ddu | Crymych a Mynachlog-ddu | Cymunedau Crymych a Mynachlog-ddu | 1 |
East Williamston | East Williamston | Cymuned East Williamston | 1 |
Fishguard: North East | Gogledd-ddwyrain Abergwaun | Ward Gogledd-ddwyrain Abergwaun o gymuned Abergwaun ac Wdig | 1 |
Fishguard: North West | Gogledd-orllewin Abergwaun | Ward Gogledd-orllewin Abergwaun o gymuned Abergwaun ac Wdig | 1 |
Goodwick | Wdig | Ward Wdig o gymuned Abergwaun ac Wdig | 1 |
Haverfordwest: Castle | Hwlffordd: Y Castell | Ward y Castell o gymuned Hwlffordd | 1 |
Haverfordwest: Garth | Hwlffordd: Garth | Ward Garth o gymuned Hwlffordd | 1 |
Haverfordwest: Portfield | Hwlffordd: Portfield | Ward Portfield o gymuned Hwlffordd | 1 |
Haverfordwest: Prendergast | Hwlffordd: Prendergast | Ward Prendergast o gymuned Hwlffordd | 1 |
Haverfordwest: Priory | Hwlffordd: Y Priordy | Ward y Priordy o gymuned Hwlffordd | 1 |
Hundleton | Hundleton | Cymunedau Angle, Hundleton, ac Ystagbwll a Chastellmartin | 1 |
Johnston | Johnston | Cymuned Johnston | 1 |
Kilgetty and Begelly | Cilgeti a Begeli | Cymuned Cilgeti/Begeli | 1 |
Lampeter Velfrey | Llanbedr Felffre | Cymunedau Llanbedr Felffre a Llanddewi Felffre | 1 |
Lamphey | Llandyfái | Cymunedau Cosheston a Llandyfái | 1 |
Letterston | Treletert | Cymunedau Cas-lai, Treletert a Chas-blaidd | 1 |
Llangwm | Llangwm | Cymunedau Freystrop, Hook a Llangwm | 1 |
Llanrhian | Llanrhian | Cymunedau Llanrhian, Mathri a Phen-caer | 1 |
Maenclochog | Maenclochog | Cymunedau Clunderwen, Gorllewin Llandysilio a Maenclochog | 1 |
Manorbier and Penally | Maenorbŷr a Phenalun | Cymunedau Maenorbŷr a Phenalun | 1 |
Martletwy | Martletwy | Cymunedau Llanhuadain, Martletwy, ac Uzmaston, Boulston a Slebets | 1 |
Merlin’s Bridge | Pont Fadlen | Cymuned Pont Fadlen | 1 |
Milford: Central | Canol Aberdaugleddau | Ward Canol Aberdaugleddau o gymuned Aberdaugleddau | 1 |
Milford: East | Dwyrain Aberdaugleddau | Ward Dwyrain Aberdaugleddau o gymuned Aberdaugleddau | 1 |
Milford: Hakin | Aberdaugleddau: Hakin | Ward Hakin o gymuned Aberdaugleddau | 1 |
Milford: Hubberston | Aberdaugleddau: Hubberston | Ward Hubberston o gymuned Aberdaugleddau | 1 |
Milford: North | Gogledd Aberdaugleddau | Ward Gogledd Aberdaugleddau o gymuned Aberdaugleddau | 1 |
Milford: West | Gorllewin Aberdaugleddau | Ward Gorllewin Aberdaugleddau o gymuned Aberdaugleddau | 1 |
Narberth: Urban | Arberth Drefol | Ward Arberth Drefol o gymuned Arberth | 1 |
Narberth: Rural | Arberth Wledig | Cymuned Tredemel, a ward Arberth Wledig o gymuned Arberth | 1 |
Newport and Dinas | Trefdraeth a Dinas | Cymunedau Dinas a Threfdraeth | 1 |
Neyland: East | Dwyrain Neyland | Ward Dwyrain Neyland o gymuned Neyland | 1 |
Neyland: West | Gorllewin Neyland | Cymuned Stadwell a ward Gorllewin Neyland o gymuned Neyland | 1 |
Pembroke Dock: Bush | Doc Penfro: Bush | Ward Bush o gymuned Doc Penfro | 1 |
Pembroke Dock: Central | Canol Doc Penfro | Ward Canol Doc Penfro o gymuned Doc Penfro | 1 |
Pembroke Dock: Market | Doc Penfro: Y Farchnad | Ward y Farchnad o gymuned Doc Penfro | 1 |
Pembroke Dock: Bufferland | Doc Penfro: Bufferland | Ward Bufferland o gymuned Doc Penfro | 1 |
Pembroke Dock: Pennar | Doc Penfro: Pennar | Ward Pennar o gymuned Doc Penfro | 1 |
Pembroke: Monkton and St Mary South | Penfro: Cil-maen a De St Mary | Wardiau Cil-maen a De St Mary o gymuned Penfro | 2 |
Pembroke: St Mary North | Penfro: Gogledd St Mary | Ward Gogledd St Mary o gymuned Penfro | 1 |
Pembroke: St Michael | Penfro: St Michael | Ward St Michael o gymuned Penfro | 1 |
Rudbaxton and Spittal | Rudbaxton a Spittal | Cymunedau Rudbaxton a Spittal | 1 |
Saundersfoot South | De Saundersfoot | Ward De Saundersfoot o gymuned Saundersfoot | 1 |
Solva | Solfach | Cymunedau Breudeth a Solfach | 1 |
St David’s | Tyddewi | Cymuned Tyddewi | 1 |
St Dogmaels | Llandudoch | Cymunedau Nanhyfer a Llandudoch | 1 |
St Florence and St Mary Out Liberty | St Florence a Llanfair Dinbych-y-pysgod | Cymunedau St Florence a Llanfair Dinbych-y-pysgod | 1 |
St Ishmael’s | Llanisan-yn-Rhos | Cymunedau Dale, Herbrandston, Marloes a St Brides, Llanisan-yn-Rhos, Tiers Cross a Chastell Gwalchmai | 1 |
Tenby: North | Gogledd Dinbych-y-pysgod | Ward Gogledd Dinbych-y-pysgod o gymuned Dinbych-y-pysgod | 1 |
Tenby: South | De Dinbych-y-pysgod | Ward De Dinbych-y-pysgod o gymuned Dinbych-y-pysgod ynghyd ag Ynys Bŷr ac Ynys Farged | 1 |
The Havens | Yr Aberoedd | Cymunedau yr Aberoedd, a Nolton a’r Garn | 1 |
Wiston | Cas-wis | Cymunedau Ambleston, y Mot a Chas-wis | 1 |
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Gorffennaf 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Benfro. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 60 i 59, ond argymhellwyd bod nifer y cynghorwyr yn parhau yn 60.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Benfro ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Benfro.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i drefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau yn Sir Benfro.
Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Hakin, Hubberston, Canol Aberdaugleddau, Gogledd Aberdaugleddau a Dwyrain Aberdaugleddau yng nghymuned Aberdaugleddau.
Mae erthyglau 5 a 6 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol St Michael a De St Mary yng nghymuned Penfro, ac i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau hyn.
Mae erthygl 7 yn diddymu wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a Llanion yng nghymuned Doc Penfro, ac yn creu wardiau cymunedol newydd Canol Doc Penfro a Bush.
Mae erthygl 8 yn diddymu ward gymunedol Pennar yng nghymuned Doc Penfro, ac yn creu wardiau cymunedol newydd Pennar a Bufferland.
Mae erthygl 9 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau newydd Bufferland, Bush a Phennar yng nghymuned Doc Penfro, ac yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Doc Penfro.
Mae erthygl 10 yn creu wardiau cymunedol newydd Gogledd Saundersfoot a De Saundersfoot yng nghymuned Saundersfoot. Mae erthygl 11 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau newydd hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “10” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Sir Penfro. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir Penfro yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.