Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2)
At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3)
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “map” (“map”) yw’r map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau;
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy;
os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy3.
(1)
Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Conwy, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2)
Mae Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ei rhannu’n 30 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3)
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4)
Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5)
Cymunedau Llandrillo-yn-Rhos a Bae Colwyn: newidiadau i ffiniau cymunedol4.
Mae’r rhan o gymuned Bae Colwyn a ddangosir â llinellau ar y map wedi ei throsglwyddo i gymuned Llandrillo-yn-Rhos, ac yn ffurfio rhan o ward Rhos o gymuned Llandrillo-yn-Rhos.
YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Betws-yn-Rhos | Betws-yn-Rhos | Cymunedau Betws-yn-Rhos a Llanfair Talhaearn | 1 |
Betws-y-Coed and Trefriw | Betws-y-coed a Threfriw | Cymunedau Betws-y-coed, Capel Curig, Dolwyddelan a Threfriw | 1 |
Bryn | Bryn | Wardiau Bryn a Lafan o gymuned Llanfairfechan | 1 |
Caerhun | Caerhun | Cymunedau Caerhun, Dolgarrog a Henryd | 1 |
Colwyn | Colwyn | Ward Colwyn o gymuned Hen Golwyn | 2 |
Conwy | Conwy | Wardiau Aberconwy a Chastell o gymuned Conwy | 2 |
Craig-y-don | Craig-y-don | Ward Craig-y-don o gymuned Llandudno | 2 |
Deganwy | Deganwy | Ward Deganwy o gymuned Conwy | 2 |
Eglwys-bach a Llangernyw | Eglwys-bach a Llangernyw | Cymunedau Eglwys-bach a Llangernyw | 1 |
Eirias | Eirias | Ward Eirias o gymuned Hen Golwyn | 2 |
Gele and Llanddulas | Gele a Llanddulas | Wardiau Gele a Llansansiôr o gymuned Abergele a chymuned Llanddulas a Rhyd-y-foel | 3 |
Glyn | Glyn | Ward Glyn o gymuned Bae Colwyn | 2 |
Glyn y Marl | Glyn y Marl | Wardiau Marl a Phen-sarn o gymuned Conwy | 3 |
Gogarth Mostyn | Gogarth Mostyn | Wardiau Gogarth a Mostyn o gymuned Llandudno | 3 |
Kinmel Bay | Bae Cinmel | Ward Bae Cinmel o gymuned Bae Cinmel a Thywyn | 3 |
Llandrillo-yn-Rhos | Llandrillo-yn-Rhos | Cymuned Llandrillo-yn-Rhos | 4 |
Llanrwst a Llanddoged | Llanrwst a Llanddoged | Cymunedau Llanrwst, a Llanddoged a Maenan | 2 |
Llansanffraid | Llansanffraid | Cymuned Llansanffraid Glan Conwy | 1 |
Llansannan | Llansannan | Cymunedau Llansannan a Llannefydd | 1 |
Llysfaen | Llysfaen | Cymuned Llysfaen | 1 |
Mochdre | Mochdre | Cymuned Mochdre | 1 |
Pandy | Pandy | Ward Pandy o gymuned Llanfairfechan | 1 |
Penmaenmawr | Penmaenmawr | Cymuned Penmaenmawr | 2 |
Penrhyn | Penrhyn | Ward Penrhyn o gymuned Llandudno | 2 |
Pen-sarn Pentre Mawr | Pen-sarn Pentre Mawr | Wardiau Pen-sarn (Abergele) a Phentre Mawr o gymuned Abergele | 3 |
Rhiw | Rhiw | Ward Rhiw o gymuned Bae Colwyn | 3 |
Towyn | Tywyn | Ward Tywyn o gymuned Bae Cinmel a Thywyn | 1 |
Tudno | Tudno | Ward Tudno o gymuned Llandudno | 2 |
Uwch Aled | Uwch Aled | Cymunedau Cerrigydrudion, Llanfihangel Glyn Myfyr, Llangwm a Phentrefoelas | 1 |
Uwch Conwy | Uwch Conwy | Cymunedau Bro Garmon, Bro Machno ac Ysbyty Ifan | 1 |
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mai 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Conwy. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 38 i 30, a lleihau nifer y cynghorwyr o 59 i 55.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae erthygl 4 yn gweithredu’r argymhelliad ar gyfer newid i ffiniau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo ardal o gymuned Bae Colwyn i gymuned Llandrillo-yn-Rhos.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r map y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud ag ef wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.