NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mai 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Conwy. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 38 i 30, a lleihau nifer y cynghorwyr o 59 i 55.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae erthygl 4 yn gweithredu’r argymhelliad ar gyfer newid i ffiniau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo ardal o gymuned Bae Colwyn i gymuned Llandrillo-yn-Rhos.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r map y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud ag ef wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.