Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
3 Chwefror 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
4 Chwefror 2021
Yn dod i rym
1 Ebrill 2022
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2022.
2. Yn rheoliad 5 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008(3), yn lle “chwe wythnos” rhodder “26 wythnos”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae rheoliad 4(a) a (b) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008 (“Rheoliadau 2008”) yn eithrio rhag rhwymedigaeth i dalu ardrethu annomestig o dan adran 45 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 unrhyw hereditamentau a fu heb eu meddiannu’n barhaus am dri mis neu lai, neu yn achos hereditament diwydiannol cymwys, am chwe mis neu lai.
Mae’r ddau ddosbarth o hereditamentau yn ddarostyngedig i reoliad 5 o Reoliadau 2008 sy’n darparu bod hereditament sydd heb ei feddiannu ac a gaiff ei feddiannu ar unrhyw ddiwrnod i’w drin fel pe bai heb ei feddiannu’n barhaus at ddibenion rheoliad 4(a) a (b) os bydd heb ei feddiannu eto pan ddaw cyfnod o lai na chwe wythnos, gan ddechrau ar y diwrnod hwnnw, i ben.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 2008 fel bod hereditament sydd heb ei feddiannu ac a gaiff ei feddiannu am gyfnod o 26 wythnos neu lai cyn y bydd heb ei feddiannu eto i’w drin fel pe bai heb ei feddiannu’n barhaus at ddibenion rheoliad 4(a) a (b) o Reoliadau 2008.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1988 p. 41. Diwygiwyd adran 45(1)(d), a mewnosodwyd is-adrannau (9) a (10), gan Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42). Gweler adran 146(6) ar gyfer diffiniad o “prescribed”.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol a geir yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672, erthygl 2, Atodlen 1). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau hynny bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.