2021 Rhif 118 (Cy. 31)
Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 45(1)(d), (9) a (10) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 ac a freinir bellach ynddynt hwy2.

Enwi a chychwyn1.

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2022.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 20082.

Yn rheoliad 5 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 20083, yn lle “chwe wythnos” rhodder “26 wythnos”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae rheoliad 4(a) a (b) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008 (“Rheoliadau 2008”) yn eithrio rhag rhwymedigaeth i dalu ardrethu annomestig o dan adran 45 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 unrhyw hereditamentau a fu heb eu meddiannu’n barhaus am dri mis neu lai, neu yn achos hereditament diwydiannol cymwys, am chwe mis neu lai.

Mae’r ddau ddosbarth o hereditamentau yn ddarostyngedig i reoliad 5 o Reoliadau 2008 sy’n darparu bod hereditament sydd heb ei feddiannu ac a gaiff ei feddiannu ar unrhyw ddiwrnod i’w drin fel pe bai heb ei feddiannu’n barhaus at ddibenion rheoliad 4(a) a (b) os bydd heb ei feddiannu eto pan ddaw cyfnod o lai na chwe wythnos, gan ddechrau ar y diwrnod hwnnw, i ben.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 2008 fel bod hereditament sydd heb ei feddiannu ac a gaiff ei feddiannu am gyfnod o 26 wythnos neu lai cyn y bydd heb ei feddiannu eto i’w drin fel pe bai heb ei feddiannu’n barhaus at ddibenion rheoliad 4(a) a (b) o Reoliadau 2008.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.