2021 Rhif 1176 (Cy. 289)
Henebion Hynafol, Cymru

Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9ZB(3) a (7) a 60(1A) o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 19791, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 60(4)2 o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn1.

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2022.

Dehongli2.

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “amrywiad drafft” (“draft variation”) yw amrywiad drafft ar gytundeb partneriaeth dreftadaeth;

ystyr “cydsyniad heneb gofrestredig” (“scheduled monument consent”) yw cydsyniad o dan adran 2(3) o Ddeddf 1979 ar gyfer gwaith penodedig at ddiben symud ymaith neu atgyweirio’r heneb gofrestredig y mae’r cytundeb yn ymwneud â hi neu unrhyw ran ohoni, neu ar gyfer gwneud unrhyw addasiadau neu ychwanegiadau i’r heneb;

ystyr “cytundeb drafft” (“draft agreement”) yw cytundeb partneriaeth dreftadaeth drafft;

ystyr “cytundeb partneriaeth dreftadaeth” (“heritage partnership agreement”) yw cytundeb y mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo iddo o dan adran 9ZA o Ddeddf 1979;

ystyr “Deddf 1979” (“the 1979 Act”) yw Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979;

ystyr “gorchymyn terfynu” (“termination order”) yw gorchymyn o dan reoliad 6;

ystyr “heneb gofrestredig” (“scheduled monument”) yw heneb sydd am y tro wedi ei chynnwys yn y Gofrestr o henebion a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan adran 1 o Ddeddf 1979;

mae i “hysbysiad o’r bwriad i derfynu” (“notice of proposed termination”) yr ystyr a roddir gan reoliad 6(4);

ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas â heneb gofrestredig neu ei thir cysylltiedig, yw person sydd am y tro—

(a)

yn berchennog yr ystâd mewn cysylltiad â’r ffi syml yn yr heneb gofrestredig neu’r tir, neu

(b)

â hawl i denantiaeth ar yr heneb gofrestredig neu’r tir (yn ôl y digwydd) am gyfnod o flynyddoedd y mae nifer penodol ohonynt heb fod yn llai na 7 mlynedd yn dal heb ddod i ben.

ystyr “tir cysylltiedig” (“associated land”) yw tir sy’n ffinio â heneb gofrestredig yng Nghymru neu sydd yn ei chyffiniau.

Materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cytundeb partneriaeth dreftadaeth3.

(1)

Rhaid i gytundeb partneriaeth dreftadaeth gynnwys—

(a)

digon o wybodaeth i adnabod yr heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig y mae’r cytundeb yn ymwneud â hi neu ag ef, gan gynnwys plan neu luniad o’r heneb neu’r tir;

(b)

unrhyw blaniau a lluniadau eraill ac unrhyw wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r gwaith a gwmpesir gan y cytundeb;

(c)

y dyddiad y mae’r cytundeb yn cael effaith;

(d)

hyd y cytundeb.

(2)

Gweler hefyd yr adrannau a ganlyn yn Neddf 1979—

(a)

9ZA(3) (yn darparu y caiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth gynnwys darpariaeth sy’n rhoi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith a bennir yn y cytundeb, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir yn y cytundeb);

(b)

9ZA(4) (materion eraill y caniateir darparu ar eu cyfer mewn cytundeb partneriaeth dreftadaeth);

(c)

9ZB(1) (yn gwneud darpariaeth atodol ar gyfer cytundebau partneriaeth dreftadaeth).

Gofynion ymgynghori a chyhoeddusrwydd: cytundeb partneriaeth dreftadaeth drafft neu amrywiad drafft4.

(1)

Ni chaiff Gweinidogion Cymru ymrwymo i gytundeb partneriaeth dreftadaeth oni bai eu bod wedi cydymffurfio â pharagraffau (4) i (6).

(2)

Mae paragraff (3) yn gymwys i amrywiad arfaethedig o gytundeb partneriaeth dreftadaeth presennol er mwyn—

(a)

darparu bod y cytundeb yn ymwneud â heneb gofrestredig ychwanegol, neu

(b)

estyn hyd y cytundeb.

(3)

Ni chaniateir gwneud yr amrywiad oni bai—

(a)

yn achos amrywiad a gynigir gan barti heblaw am Weinidogion Cymru, bod y parti hwnnw wedi anfon copi o’r amrywiad drafft at Weinidogion Cymru, a

(b)

mewn unrhyw achos, bod Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â pharagraffau (4) i (6).

(4)

Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

anfon copi o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft (yn ôl y digwydd) at y canlynol—

(i)

perchennog yr heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud â hi neu ag ef;

(ii)

unrhyw feddiannydd i’r heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig;

(iii)

unrhyw awdurdod lleol y lleolir yr heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig yn ei ardal;

(iv)

unrhyw awdurdod lleol sy’n warcheidwad i’r heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig (yn rhinwedd adran 12 neu 15 o Ddeddf 1979), a

(b)

gwahodd sylwadau gan y personau hynny cyn diwedd cyfnod a bennir yn y gwahoddiad.

(5)

Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—

(a)

cyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn drwy ddulliau electronig am o leiaf 21 o ddiwrnodau—

(i)

cyfeiriad neu leoliad yr heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud â hi neu ag ef;

(ii)

crynodeb o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft;

(iii)

manylion ynghylch sut y caniateir cyflwyno sylwadau am y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft i Weinidogion Cymru;

(iv)

y cyfnod y mae rhaid i’r sylwadau gael eu cyflwyno,

(b)

anfon yr wybodaeth a ddisgrifir yn is-baragraff (a) at unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod ganddo fuddiant yn y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft, ac eithrio person yr anfonwyd y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft ato o dan baragraff (4), ac

(c)

os gofynnir iddynt wneud hynny cyn diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o dan y paragraff hwn, anfon copi o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft at y person a wnaeth y cais.

(6)

Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y cyfnodau ar gyfer cyflwyno sylwadau o dan y rheoliad hwn yn gyfnodau o ddim llai na 21 o ddiwrnodau gan ddechrau—

(a)

yn achos paragraff (4), â’r diwrnod y caiff copi o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft (yn ôl y digwydd) ei anfon gyntaf o dan y paragraff hwnnw, a

(b)

yn achos paragraff (5), â’r diwrnod y caiff yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a) o’r paragraff hwnnw ei chyhoeddi’n electronig am y tro cyntaf.

(7)

Nid oes dim yn y rheoliad hwn na rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi neu anfon at unrhyw berson wybodaeth—

(a)

sy’n gyfrinach fasnach,

(b)

y mae ei datgelu yn debygol fel arall o niweidio buddiant masnachol unrhyw berson,

(c)

y byddai ei datgelu’n gyfystyr â thor cyfrinachedd y gallai unrhyw berson ddwyn achos llys yn ei gylch, neu

(d)

y gwaherddir ei datgelu gan unrhyw ddeddfiad, neu o dan unrhyw ddeddfiad, neu gan orchymyn llys.

(8)

Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod lleol” yw—

(a)

mewn perthynas â henebion cofrestredig a thir cysylltiedig yng Nghymru—

(i)

cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, a

(ii)

awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n awdurdod cynllunio lleol;

(b)

mewn perthynas â thir cysylltiedig yn Lloegr, cyngor sir neu gyngor dosbarth.

Gofyniad cyhoeddusrwydd: dyletswydd i gyhoeddi rhestr5.

Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

cyhoeddi rhestr, drwy ddulliau electronig, o’r holl gytundebau partneriaeth dreftadaeth sydd mewn effaith, a

(b)

cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ymrwymo i gytundeb partneriaeth dreftadaeth, neu ar ôl i gytundeb presennol gael ei amrywio, ychwanegu’r cytundeb neu’r amrywiad at y rhestr.

Gorchmynion terfynu: cyffredinol6.

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn (“gorchymyn terfynu”), derfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth, neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb.

(2)

Caiff gorchymyn terfynu gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ddarfodol, drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(3)

Cyn gwneud gorchymyn terfynu, rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o’r bwriad i wneud y gorchymyn (“hysbysiad o’r bwriad i derfynu”)—

(a)

i bartïon eraill y cytundeb, a

(b)

i unrhyw berson arall y maent yn ystyried bod ganddo fuddiant yn y cytundeb.

(4)

Yn y Rheoliadau hyn, “hysbysiad o’r bwriad i derfynu” yw hysbysiad sy’n nodi—

(a)

drafft o’r gorchymyn terfynu;

(b)

y rhesymau dros y bwriad i derfynu;

(c)

y caiff person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo wneud gwrthwynebiad ar y ffurf a bennir yn yr hysbysiad i Weinidogion Cymru unrhyw bryd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad.

(5)

Caiff gorchymyn terfynu sy’n terfynu cytundeb neu ddarpariaeth sy’n rhoi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith gael ei wneud unrhyw bryd cyn i’r gwaith gael ei gwblhau, ond nid yw’n effeithio ar gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith a gyflawnwyd cyn i’r gorchymyn gael effaith.

Gorchmynion terfynu: effaith cyflwyno hysbysiad o’r bwriad i derfynu7.

(1)

Pan mai effaith gorchymyn terfynu fyddai dirymu cydsyniad heneb gofrestredig, rhaid i hysbysiad o’r bwriad i derfynu bennu na chaniateir cyflawni’r gwaith y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef, na pheri na chaniatáu iddo gael ei gyflawni, ar ddyddiad a bennir gan yr hysbysiad neu ar ôl hynny.

(2)

Pan mai effaith gorchymyn terfynu fyddai eithrio unrhyw waith o gwmpas cydsyniad heneb gofrestredig, rhaid i hysbysiad o’r bwriad i derfynu bennu na chaniateir cyflawni’r gwaith, na pheri na chaniatáu iddo gael ei gyflawni, ar ddyddiad a bennir gan yr hysbysiad neu ar ôl hynny.

(3)

Pan fo hysbysiad o’r bwriad i derfynu yn pennu na chaniateir cyflawni’r gwaith y mae cydsyniad heneb gofrestredig yn ymwneud ag ef, na pheri na chaniatáu iddo gael ei gyflawni, ar ddyddiad a bennir gan yr hysbysiad neu ar ôl hynny, nid yw’r gwaith i’w ystyried fel pe bai wedi ei awdurdodi o dan adran 2(3) o Ddeddf 1979 os caiff ei gyflawni, neu os perir neu os caniateir iddo gael ei gyflawni, ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny.

(4)

Pan fo hysbysiad o’r bwriad i derfynu yn pennu na chaniateir cyflawni gwaith a bennir yn yr hysbysiad, na pheri na chaniatáu iddo gael ei gyflawni, ar ddyddiad a bennir gan yr hysbysiad neu ar ôl hynny, nid yw’r gwaith i’w ystyried fel pe bai wedi ei awdurdodi o dan adran 2(3) o Ddeddf 1979 os caiff ei gyflawni, neu os perir neu os caniateir iddo gael ei gyflawni, ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny.

(5)

Ond mae paragraffau (3) a (4) yn peidio â bod yn gymwys—

(a)

os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn terfynu o fewn y cyfnod o 21 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynir hysbysiad yn unol â rheoliad 6(3), pan gaiff y gorchymyn terfynu ei wneud (pan fydd yr awdurdodiad yn peidio i’r graddau a ddarperir yn y gorchymyn),

(b)

os bydd Gweinidogion Cymru, o fewn y cyfnod hwnnw o 21 mis, yn cyflwyno hysbysiad i berchennog yr heneb gofrestredig ac unrhyw feddiannydd iddi eu bod wedi penderfynu peidio â gwneud gorchymyn terfynu, pan gyflwynir yr hysbysiad hwnnw, ac

(c)

mewn unrhyw achos arall, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw o 21 mis.

Gorchmynion terfynu: amodau8.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo hysbysiad o’r bwriad i derfynu wedi ei gyflwyno yn unol â rheoliad 6(3).

(2)

Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y gorchymyn terfynu y mae’r hysbysiad o’r bwriad i derfynu yn gysylltiedig ag ef oni bai—

(a)

bod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer gwneud gwrthwynebiadau, sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad o’r bwriad i derfynu wedi dod i ben heb i unrhyw wrthwynebiadau gael eu gwneud gan berson a gafodd yr hysbysiad,

(b)

pan fo gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson o’r fath o fewn y cyfnod hwnnw, y caiff pob gwrthwynebiad o’r fath ei dynnu yn ôl, neu

(c)

os cafodd gwrthwynebiad ei wneud i Weinidogion Cymru cyn diwedd y cyfnod hwnnw ac nad yw’r gwrthwynebiad wedi ei dynnu yn ôl, eu bod hwy—

(i)

wedi peri i ymchwiliad lleol cyhoeddus gael ei gynnal, neu

(ii)

wedi rhoi cyfle i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (3) i ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw a chael gwrandawiad ganddo.

(3)

Y personau yw—

(a)

y person sy’n gwneud y gwrthwynebiad, a

(b)

os yw’r person y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn derbyn y cyfle i ymddangos mewn gwrandawiad a chael ei glywed—

(i)

unrhyw berson arall y mae’r hysbysiad o’r bwriad i derfynu wedi ei gyflwyno iddo, a

(ii)

unrhyw berson arall y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn briodol rhoi cyfle iddo i ymddangos mewn gwrandawiad a chael ei glywed.

(4)

Rhaid bod Gweinidogion Cymru hefyd wedi ystyried—

(a)

unrhyw wrthwynebiadau a wnaed cyn diwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) ac na chawsant eu tynnu’n ôl, a

(b)

adroddiad y person a gynhaliodd unrhyw ymchwiliad neu wrandawiad yn unol â pharagraff (2)(c).

(5)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn terfynu yn rhinwedd bod yr amod ym mharagraff (2)(a) neu (b) wedi ei fodloni, rhaid gwneud y gorchymyn ar y telerau a amlinellwyd gan yr hysbysiad o’r bwriad i derfynu.

(6)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn terfynu yn rhinwedd bod yr amod ym mharagraff (2)(c) wedi ei fodloni, caniateir gwneud y gorchymyn un ai ar y telerau a amlinellwyd gan yr hysbysiad o’r bwriad i derfynu neu ag unrhyw amrywiadau y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(7)

Mae adran 250(2) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19723 (ymchwiliadau lleol: tystiolaeth) yn gymwys i ymchwiliad lleol cyhoeddus a gynhelir gan berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (2).

Gorchmynion terfynu: gofyniad hysbysu9.

Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn terfynu, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

anfon copi o’r gorchymyn at bob person y cyflwynwyd hysbysiad o’r bwriad i derfynu iddo;

(b)

pan gynhaliwyd gwrandawiad o dan reoliad 8(2)(c)(i), anfon copi o’r gorchymyn at unrhyw berson arall a roddodd dystiolaeth yn yr ymchwiliad;

(c)

pan gynhaliwyd gwrandawiad o dan reoliad 8(2)(c)(ii), anfon copi o’r gorchymyn at unrhyw berson arall a gafodd gyfle i ymddangos gerbron y gwrandawiad a chael ei glywed.

Digollediad sy’n ymwneud â hysbysiad o’r bwriad i derfynu neu orchymyn terfynu10.

(1)

Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)

pan fo Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad o’r bwriad i derfynu neu’n gwneud gorchymyn terfynu,

(b)

pan fo parti i’r cytundeb partneriaeth dreftadaeth sydd â buddiant yn y cyfan neu unrhyw ran o’r heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig y mae’r cytundeb yn gymwys iddi neu iddo—

(i)

wedi mynd i wariant wrth gyflawni gwaith y mae’r hysbysiad o’r bwriad i derfynu neu’r gorchymyn terfynu yn peri ei fod yn waith ofer, neu

(ii)

wedi dioddef colled neu ddifrod fel arall y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i’r hysbysiad o’r bwriad i derfynu neu’r gorchymyn terfynu, ac

(c)

pan fo’r parti hwnnw i’r cytundeb yn anfon hawliad am ddigollediad at Weinidogion Cymru a bod hwnnw’n dod i’w llaw o fewn cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r hysbysiad o’r bwriad i derfynu neu’r gorchymyn terfynu yn cael effaith.

(2)

Mae gan y parti i’r cytundeb partneriaeth dreftadaeth hawl i gael ei dalu digollediad gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r gwariant, y golled neu’r difrod a grybwyllir ym mharagraff (1)(b).

(3)

At ddibenion y rheoliad hwn, mae unrhyw wariant yr eir iddo wrth baratoi planiau (neu waith paratoi tebyg arall) at ddibenion unrhyw waith i’w drin fel pe aed iddo wrth gyflawni’r gwaith hwnnw.

(4)

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), nid oes digollediad yn daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)

gwaith a gyflawnwyd cyn i’r cytundeb gael effaith, neu

(b)

unrhyw golled neu ddifrod arall (heb fod yn golled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir) sy’n deillio o unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed cyn i’r cytundeb gael effaith.

Cymhwyso darpariaethau Deddf 197911.

Mae’r Atodlen yn datgymhwyso neu’n addasu darpariaethau Deddf 1979 at ddibenion cytundebau partneriaeth dreftadaeth.

Dawn Bowden
Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip o dan awdurdod Gweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENTabl

Rheoliad 11

Darpariaeth

Addasiad neu ddatgymhwysiad

Adran 4 (hyd, addasu a dirymu cydsyniad heneb gofrestredig)

Nid yw adran 4 yn gymwys.

Adran 6 (pwerau mynediad i arolygu henebion cofrestredig, etc.)

Mae adran 6 yn gymwys fel pe bai’r hyn a ganlyn yn cael ei roi ar ôl is-adran (2)—

“(2A)

Any person duly authorised in writing by the Welsh Ministers may at any reasonable time enter any land for the purpose of inspecting any scheduled monument in, on or under the land in connection with a proposal by the Welsh Ministers to serve a notice of proposed termination or make a termination order under regulation 6 of the Scheduled Monuments (Heritage Partnership Agreements) (Wales) Regulations 2021.”

Adran 27 (darpariaethau cyffredinol o ran digollediad am ddibrisiant)

Mae adran 27 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at adran 9 yn gyfeiriad at reoliad 10 o’r Rheoliadau hyn.

Adran 51 (eiddo eglwysig)

Mae adran 51 yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (3), y cyfeiriad at adran 9 yn gyfeiriad at reoliad 10 o’r Rheoliadau hyn.

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (p. 46) (“Deddf 1979”). Maent yn gwneud darpariaeth ynghylch cytundebau partneriaeth dreftadaeth sy’n ymwneud â henebion cofrestredig yng Nghymru.

Mae Deddf 1979 yn amddiffyn henebion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol. Gall heneb fod yn adeilad, strwythur, gwaith, ogof neu gloddfa, neu safle. Mae Deddf 1979 yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofnod (y cyfeirir ato fel “Cofrestr”) o henebion yng Nghymru sydd o bwysigrwydd cenedlaethol. Dim ond os ydynt wedi eu hawdurdodi gan Weinidogion Cymru y caniateir i fathau penodol o waith gael eu cyflawni ar “heneb gofrestredig”. Yr enw ar yr awdurdodiad hwn yw “cydsyniad heneb gofrestredig” ac fe’i rhoddir o dan Ran 1 o Ddeddf 1979.

Diwygiodd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (dccc 4) Ddeddf 1979 i gyflwyno “cytundeb partneriaeth dreftadaeth”. Cytundeb yw hwn rhwng Gweinidogion Cymru a pherchennog heneb gofrestredig yng Nghymru neu berchennog tir sy’n ffinio â heneb gofrestredig o’r fath, neu yng nghyffiniau heneb gofrestredig o’r fath (y cyfeirir ato fel “tir cysylltiedig”). Gall fod partïon ychwanegol hefyd i gytundeb partneriaeth dreftadaeth, gan gynnwys unrhyw berson arall sydd â buddiant yn yr heneb neu’r tir cysylltiedig. Mae adran 9ZB(2) o Ddeddf 1979 yn darparu y caiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth ymwneud â mwy nag un heneb gofrestredig.

Caiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer rhaglen waith a bennir yn y cytundeb. Dim ond at ddiben symud ymaith neu atgyweirio heneb gofrestredig y mae’r cytundeb yn gymwys iddi, neu unrhyw ran ohoni, neu i wneud unrhyw addasiadau neu ychwanegiadau i heneb o’r fath y caiff y gwaith gael ei wneud.

Mae adran 9ZB(3) o Ddeddf 1979 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud Rheoliadau i wneud darpariaeth bellach ynghylch cynnwys cytundebau partneriaeth dreftadaeth a’r gweithdrefnau ar gyfer cytuno ar gytundebau a’u terfynu.

Mae rheoliad 3 yn nodi materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cytundeb partneriaeth dreftadaeth. Maent yn cynnwys pethau fel digon o wybodaeth i adnabod yr heneb gofrestredig neu dir cysylltiedig y mae’r cytundeb yn ymwneud â hi neu ag ef, a hyd y cytundeb.

Mae rheoliadau 4 a 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch gofynion ymgynghori a chyhoeddusrwydd. Mae rheoliad 4 yn nodi’r gofynion ymgynghori a chyhoeddusrwydd y mae rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â hwy cyn iddynt ymrwymo i gytundeb partneriaeth dreftadaeth neu fod cytundeb presennol yn cael ei amrywio i gynnwys un neu ragor o henebion cofrestredig ychwanegol, neu fod hyd y cytundeb yn cael ei estyn. Maent yn cynnwys ymgynghori â pherchennog a meddiannydd y tir, ac â’r awdurdodau lleol perthnasol, a rhoi cyhoeddusrwydd i gytundebau partneriaeth dreftadaeth drafft neu amrywiadau drafft ar gytundebau drwy ddulliau electronig am nifer penodedig o ddiwrnodau.

Mae rheoliad 5 yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr, drwy ddulliau electronig, o gytundebau partneriaeth dreftadaeth sydd mewn effaith a bod rhaid iddynt ddiweddaru’r rhestr cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ymrwymo i gytundeb partneriaeth dreftadaeth newydd neu os caiff amrywiadau eu gwneud.

Mae rheoliadau 6 i 8 yn darparu ar gyfer gweithdrefn y caiff Gweinidogion Cymru ei defnyddio, drwy orchymyn (“gorchymyn terfynu”) i derfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth, neu ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath, heb gytundeb partïon eraill y cytundeb. Dim ond pan fyddant yn cyflwyno hysbysiad o’u bwriadau i’r partïon eraill (“hysbysiad o’r bwriad i derfynu”) a bod amodau penodedig wedi eu bodloni y caiff Gweinidogion Cymru wneud hynny. Caiff yr hysbysiad o’r bwriad i derfynu, ymhlith pethau eraill, ddarparu nad yw unrhyw waith a awdurdodwyd gan y cytundeb wedi ei awdurdodi mwyach ac na chaniateir ei gyflawni ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu ar ôl hynny. Mae’r amodau’n cynnwys rhoi cyfle i bartïon eraill y cytundeb a phersonau eraill sydd â buddiant i wrthwynebu’r gorchymyn terfynu.

Mae rheoliad 9 yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl gwneud gorchymyn terfynu, ei anfon at bersonau penodedig, gan gynnwys partïon eraill y cytundeb.

Mae rheoliad 10 yn atgynhyrchu adran 9 o Ddeddf 1979, gydag addasiadau, i wneud darpariaeth ynghylch digollediad y gall fod rhaid i Weinidogion Cymru ei dalu pan fyddant yn cyflwyno hysbysiad o’r bwriad i derfynu neu’n gwneud gorchymyn terfynu. Os oes parti i’r cytundeb wedi mynd i wariant penodedig neu wedi dioddef colled neu ddifrod fel arall, gall fod yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddigolledu’r person hwnnw.

Mae rheoliad 11 a’r Atodlen yn datgymhwyso neu’n addasu darpariaethau eraill Deddf 1979 at ddibenion cytundebau partneriaeth dreftadaeth. Mae’r darpariaethau yn gosod rheolau ar gyfer asesu’r digollediad sy’n daladwy pan fo Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad o’r bwriad i derfynu neu’n gwneud gorchymyn terfynu, ac yn rhoi pŵer i berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i fynd ar dir i arolygu heneb gofrestredig mewn cysylltiad â chynnig i derfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Cadw, Tŷ’r Afon, Heol Bedwas, Caerffili, CF83 8WT ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.