Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
20 Hydref 2021
Yn dod i rym
1 Tachwedd 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 28(4), 28(5)(b) ac 28(6)(c) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).
Yn unol ag adran 174(5)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Yn unol ag adran 28(7) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2021.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod” (“authority”) yw prif gyngor o fewn ystyr adran 171(1) o Ddeddf 2021 [F1neu gyngor cymuned cymwys o fewn ystyr adran 30(1) o Ddeddf 2021];
ystyr “cwmni” (“company”) yw cwmni o fewn ystyr adran 27(4) o Ddeddf 2021;
ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
ystyr “y pŵer cyffredinol” (“the general power”) yw’r pŵer cymhwysedd cyffredinol a roddir i awdurdod gan adran 24 o Ddeddf 2021.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 1(2) wedi eu mewnosod (5.5.2022) gan Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/423), rhlau. 1(2), 2
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.11.2021, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Cyn arfer y pŵer cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol, rhaid i awdurdod—
(a)llunio achos busnes i gefnogi’r bwriad i arfer y pŵer cyffredinol; a
(b)cymeradwyo’r achos busnes hwnnw.
(2) Ystyr “achos busnes” o dan reoliad 2(1) yw datganiad cynhwysfawr ynghylch—
(a)nodau ac amcanion y bwriad i arfer y pŵer cyffredinol;
(b)y costau, y buddsoddiadau a’r adnoddau eraill y mae eu hangen er mwyn cyflawni’r nodau a’r amcanion hynny;
(c)y canlyniadau ariannol y disgwylir y bydd y bwriad i arfer y pŵer cyffredinol yn eu cyflawni;
(d)unrhyw ganlyniadau perthnasol eraill y disgwylir y bydd y bwriad i arfer y pŵer cyffredinol yn eu cyflawni;
(e)unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â’r bwriad i arfer y pŵer cyffredinol gan gynnwys asesiad o ddifrifoldeb y risgiau hynny, ac unrhyw gamau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i liniaru’r risgiau hynny;
(f)yr effaith (gan gynnwys yr effaith ar delerau ac amodau cyflogaeth) ar unrhyw staff y mae’n bwriadu eu cyflenwi i gwmni y mae’n arfer y pŵer cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol drwyddo; ac
(g)y trefniadau bwriadedig ar gyfer staffio’r cwmni y mae’n arfer y pŵer cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol drwyddo, gan gynnwys telerau ac amodau cyflogaeth arfaethedig unrhyw staff sydd i’w cyflogi.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.11.2021, gweler rhl. 1(1)
3. Rhaid i awdurdod gyhoeddi unrhyw achos busnes a gymeradwyir yn unol â rheoliad 2(1)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.11.2021, gweler rhl. 1(1)
4. Rhaid i awdurdod adennill costau unrhyw adeiladau ac ystafelloedd, nwyddau, gwasanaethau, staff neu unrhyw beth arall a gyflenwir ganddo i gwmni y mae’n arfer y pŵer cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol drwyddo, oddi wrth y cwmni hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.11.2021, gweler rhl. 1(1)
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
20 Hydref 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 24 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”) yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i brif gynghorau a chynghorau cymuned cymwys. Yn benodol, mae’r pŵer cymhwysedd cyffredinol yn rhoi i’r awdurdodau hynny bŵer i wneud pethau penodol at ddiben masnachol.
Mae’r pŵer i wneud pethau at ddiben masnachol yn ddarostyngedig i amodau a nodir yn adran 27 o’r Ddeddf. O dan adran 27(2), wrth arfer y pŵer cyffredinol at ddiben masnachol rhaid gwneud hynny drwy gyfrwng cwmni.
Mae adran 28(4) o’r Ddeddf yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i ddarparu, drwy reoliadau, y bydd arfer y pŵer cyffredinol yn ddarostyngedig i amodau ychwanegol.
Mae rheoliad 2 yn rhagnodi amodau ychwanegol y mae rhaid i brif gyngor eu bodloni cyn arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol.
Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor gyhoeddi unrhyw achos busnes a gymeradwyir yn unol â rheoliad 2(1)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor adennill unrhyw gostau y mae’n mynd iddynt o ran unrhyw beth y mae’n ei gyflenwi i gwmni y mae’n arfer y pŵer cyffredinol at ddiben masnachol drwyddo, oddi wrth y cwmni hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.