Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021
Yn unol ag adran 174(5)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Yn unol ag adran 28(7) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt.
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2021.
(2)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod” (“authority”) yw prif gyngor o fewn ystyr adran 171(1) o Ddeddf 2021 F1neu gyngor cymuned cymwys o fewn ystyr adran 30(1) o Ddeddf 2021;
ystyr “cwmni” (“company”) yw cwmni o fewn ystyr adran 27(4) o Ddeddf 2021;
ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
ystyr “y pŵer cyffredinol” (“the general power”) yw’r pŵer cymhwysedd cyffredinol a roddir i awdurdod gan adran 24 o Ddeddf 2021.
Yr amodau sydd i’w bodloni cyn arfer y pŵer cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol2.
(1)
Cyn arfer y pŵer cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol, rhaid i awdurdod—
(a)
llunio achos busnes i gefnogi’r bwriad i arfer y pŵer cyffredinol; a
(b)
cymeradwyo’r achos busnes hwnnw.
(2)
Ystyr “achos busnes” o dan reoliad 2(1) yw datganiad cynhwysfawr ynghylch—
(a)
nodau ac amcanion y bwriad i arfer y pŵer cyffredinol;
(b)
y costau, y buddsoddiadau a’r adnoddau eraill y mae eu hangen er mwyn cyflawni’r nodau a’r amcanion hynny;
(c)
y canlyniadau ariannol y disgwylir y bydd y bwriad i arfer y pŵer cyffredinol yn eu cyflawni;
(d)
unrhyw ganlyniadau perthnasol eraill y disgwylir y bydd y bwriad i arfer y pŵer cyffredinol yn eu cyflawni;
(e)
unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â’r bwriad i arfer y pŵer cyffredinol gan gynnwys asesiad o ddifrifoldeb y risgiau hynny, ac unrhyw gamau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i liniaru’r risgiau hynny;
(f)
yr effaith (gan gynnwys yr effaith ar delerau ac amodau cyflogaeth) ar unrhyw staff y mae’n bwriadu eu cyflenwi i gwmni y mae’n arfer y pŵer cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol drwyddo; ac
(g)
y trefniadau bwriadedig ar gyfer staffio’r cwmni y mae’n arfer y pŵer cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol drwyddo, gan gynnwys telerau ac amodau cyflogaeth arfaethedig unrhyw staff sydd i’w cyflogi.
Cyhoeddi achos busnes3.
Rhaid i awdurdod gyhoeddi unrhyw achos busnes a gymeradwyir yn unol â rheoliad 2(1)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Gofyniad i adennill costau etc.4.
Rhaid i awdurdod adennill costau unrhyw adeiladau ac ystafelloedd, nwyddau, gwasanaethau, staff neu unrhyw beth arall a gyflenwir ganddo i gwmni y mae’n arfer y pŵer cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol drwyddo, oddi wrth y cwmni hwnnw.
Mae adran 24 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”) yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i brif gynghorau a chynghorau cymuned cymwys. Yn benodol, mae’r pŵer cymhwysedd cyffredinol yn rhoi i’r awdurdodau hynny bŵer i wneud pethau penodol at ddiben masnachol.
Mae’r pŵer i wneud pethau at ddiben masnachol yn ddarostyngedig i amodau a nodir yn adran 27 o’r Ddeddf. O dan adran 27(2), wrth arfer y pŵer cyffredinol at ddiben masnachol rhaid gwneud hynny drwy gyfrwng cwmni.
Mae adran 28(4) o’r Ddeddf yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i ddarparu, drwy reoliadau, y bydd arfer y pŵer cyffredinol yn ddarostyngedig i amodau ychwanegol.
Mae rheoliad 2 yn rhagnodi amodau ychwanegol y mae rhaid i brif gyngor eu bodloni cyn arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol.
Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor gyhoeddi unrhyw achos busnes a gymeradwyir yn unol â rheoliad 2(1)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor adennill unrhyw gostau y mae’n mynd iddynt o ran unrhyw beth y mae’n ei gyflenwi i gwmni y mae’n arfer y pŵer cyffredinol at ddiben masnachol drwyddo, oddi wrth y cwmni hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.