NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 24 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”) yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i brif gynghorau a chynghorau cymuned cymwys. Yn benodol, mae’r pŵer cymhwysedd cyffredinol yn rhoi i’r awdurdodau hynny bŵer i wneud pethau penodol at ddiben masnachol.

Mae’r pŵer i wneud pethau at ddiben masnachol yn ddarostyngedig i amodau a nodir yn adran 27 o’r Ddeddf. O dan adran 27(2), wrth arfer y pŵer cyffredinol at ddiben masnachol rhaid gwneud hynny drwy gyfrwng cwmni.

Mae adran 28(4) o’r Ddeddf yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i ddarparu, drwy reoliadau, y bydd arfer y pŵer cyffredinol yn ddarostyngedig i amodau ychwanegol.

Mae rheoliad 2 yn rhagnodi amodau ychwanegol y mae rhaid i brif gyngor eu bodloni cyn arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol.

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor gyhoeddi unrhyw achos busnes a gymeradwyir yn unol â rheoliad 2(1)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor adennill unrhyw gostau y mae’n mynd iddynt o ran unrhyw beth y mae’n ei gyflenwi i gwmni y mae’n arfer y pŵer cyffredinol at ddiben masnachol drwyddo, oddi wrth y cwmni hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.