Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Trefniadau Etholiadol) 2021
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiad.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2)
At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3)
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn—
- ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19764;
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 2 fap a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” a “2”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent3.
(1)
Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2)
Mae Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi ei rhannu’n 14 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3)
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4)
Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5)
Dileu cymuned Cendl, a chreu cymunedau Cendl a Garnlydan4.
(1)
Mae cymuned Cendl, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei dileu.
(2)
Mae’r cymunedau a ganlyn wedi eu creu—
(a)
cymuned Cendl a ddangosir â llinellau ar Fap 1;
(b)
cymuned Garnlydan a ddangosir â llinellau ar Fap 2.
YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Abertillery and Six Bells | Abertyleri a Six Bells | Wardiau Abertyleri a Six Bells o gymuned Abertyleri | 3 |
Beaufort | Cendl | Cymunedau Cendl a Badminton | 3 |
Blaina | Blaenau | Ward Blaenau o gymuned Nant-y-glo a Blaenau | 2 |
Brynmawr | Bryn-mawr | Cymuned Bryn-mawr | 3 |
Cwm | Cwm | Cymuned Cwm | 2 |
Cwmtillery | Cwmtyleri | Ward Cwmtyleri o gymuned Abertyleri | 2 |
Ebbw Vale North | Gogledd Glynebwy | Cymuned Gogledd Glynebwy | 2 |
Ebbw Vale South | De Glynebwy | Cymuned De Glynebwy | 2 |
Georgetown | Georgetown | Ward Georgetown o gymuned Tredegar | 2 |
Llanhilleth | Llanhiledd | Cymuned Llanhiledd | 2 |
Nantyglo | Nant-y-glo | Ward Nant-y-glo o gymuned Nant-y-glo a Blaenau | 2 |
Rassau and Garnlydan | Rasa a Garnlydan | Cymunedau Rasa a Garnlydan | 2 |
Sirhowy | Sirhywi | Ward Sirhywi o gymuned Tredegar | 3 |
Tredegar | Tredegar | Ward Canol Tredegar a Gorllewin Tredegar o gymuned Tredegar | 3 |
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Ebrill 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 16 i 14, a lleihau nifer y cynghorwyr o 42 i 33.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiad.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Mae erthygl 4 yn diddymu cymuned bresennol Cendl, ac yn creu cymunedau newydd Cendl a Garnlydan.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” a “2” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.