2021 Rhif 1160 (Cy. 285)
Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20132 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Tachwedd 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi, cychwyn a dehongli1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2)

At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19763, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3)

At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20224.

(4)

Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Caerdydd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd2.

(1)

Mae wardiau etholiadol Dinas a Sir Caerdydd, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2)

Mae Dinas a Sir Caerdydd wedi ei rhannu’n 28 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3)

Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4)

Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5)

Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19725.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Erthygl 2

Tabl

Colofn (1)

Colofn (2)

Colofn (3)

Colofn (4)

Enw Saesneg y ward etholiadol

Enw Cymraeg y ward etholiadol

Ardal y ward etholiadol

Nifer aelodau’r cyngor

Adamsdown

Adamsdown

Cymuned Adamsdown

2

Butetown

Butetown

Cymuned Butetown

3

Caerau

Caerau

Cymuned Caerau

2

Canton

Treganna

Cymuned Treganna

3

Cathays

Cathays

Cymunedau Cathays a’r Castell

4

Cyncoed

Cyncoed

Cymuned Cyncoed

3

Ely

Trelái

Cymuned Trelái

3

Fairwater

Y Tyllgoed

Cymuned y Tyllgoed

3

Gabalfa

Gabalfa

Cymuned Gabalfa

2

Grangetown

Grangetown

Cymuned Grangetown

4

Heath

Y Mynydd Bychan

Cymuned y Mynydd Bychan

3

Lisvane and Thornhill

Llys-faen a’r Ddraenen

Cymunedau Llys-faen a’r Ddraenen

3

Llandaff

Llandaf

Cymuned Llandaf

2

Llandaff North

Ystum Taf

Cymuned Ystum Taf

2

Llanishen

Llanisien

Cymuned Llanisien

2

Llanrumney

Llanrhymni

Cymuned Llanrhymni

3

Pentwyn

Pentwyn

Cymunedau Llanedern a Phentwyn

3

Pentyrch and St Fagans

Pentyrch a Sain Ffagan

Cymunedau Pentyrch a Sain Ffagan

3

Penylan

Pen-y-lan

Cymuned Pen-y-lan

3

Plasnewydd

Plasnewydd

Cymuned y Rhath

4

Pontprennau and Old St Mellons

Pontprennau a Phentref Llaneirwg

Cymunedau Pontprennau a Phentref Llaneirwg

2

Radyr

Radur

Cymuned Radur a Phentre-poeth

2

Rhiwbina

Rhiwbeina

Cymuned Rhiwbeina

3

Riverside

Glanyrafon

Cymunedau Pontcanna a Glanyrafon

3

Rumney

Tredelerch

Cymuned Tredelerch

2

Splott

Y Sblot

Cymunedau’r Sblot a Thremorfa

3

Trowbridge

Trowbridge

Cymuned Trowbridge

3

Whitchurch and Tongwynlais

Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais

Cymunedau’r Eglwys Newydd a Thongwynlais

4

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Dinas a Sir Caerdydd. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 29 i 28, ond cynyddu nifer y cynghorwyr o 75 i 79.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.