Gorchymyn Sir Ddinbych (Trefniadau Etholiadol) 2021
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ddinbych (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2)
(3)
(4)
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Ddinbych;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ddinbych2.
(1)
Mae wardiau etholiadol Sir Ddinbych, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2)
Mae Sir Ddinbych wedi ei rhannu’n 29 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3)
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4)
Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5)
YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Alyn Valley | Dyffryn Alun | Cymunedau Llanarmon-yn-Iâl a Llandegla | 1 |
Bodelwyddan | Bodelwyddan | Cymuned Bodelwyddan | 1 |
Denbigh Caledfryn Henllan | Dinbych Caledfryn Henllan | Cymuned Henllan a wardiau Canol Dinbych a Dinbych Uchaf o gymuned Dinbych | 3 |
Denbigh Lower | Dinbych Isaf | Ward Dinbych Isaf o gymuned Dinbych | 2 |
Dyserth | Dyserth | Cymuned Dyserth | 1 |
Edeirnion | Edeirnion | Cymunedau Cynwyd, Llandrillo a Chorwen | 2 |
Efenechdyd | Efenechdyd | Cymunedau Betws Gwerful Goch, Clocaenog, Derwen ac Efenechdyd | 1 |
Llandyrnog | Llandyrnog | Cymunedau Aberchwiler, Llandyrnog a Llanynys | 1 |
Llanfair Dyffryn Clwyd Gwyddelwern | Llanfair Dyffryn Clwyd Gwyddelwern | Cymunedau Bryneglwys, Gwyddelwern, Llanelidan a Llanfair Dyffryn Clwyd | 1 |
Llangollen | Llangollen | Cymunedau Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl | 2 |
Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch | Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch | Cymunedau Cyffylliog, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch a Nantglyn | 1 |
Moel Famau | Moel Famau | Cymunedau Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanferres a Llangynhafal | 1 |
Prestatyn Central | Canol Prestatyn | Ward Canol Prestatyn o gymuned Prestatyn | 2 |
Prestatyn East | Dwyrain Prestatyn | Ward Dwyrain Prestatyn o gymuned Prestatyn | 2 |
Prestatyn Meliden | Prestatyn Alltmelyd | Ward Alltmelyd o gymuned Prestatyn | 1 |
Prestatyn North | Gogledd Prestatyn | Ward Gogledd Prestatyn a Gogledd-orllewin Prestatyn o gymuned Prestatyn | 3 |
Prestatyn South West | De-orllewin Prestatyn | Ward De-orllewin Prestatyn o gymuned Prestatyn | 2 |
Rhuddlan | Rhuddlan | Cymuned Rhuddlan | 2 |
Rhyl East | Dwyrain y Rhyl | Wardiau Brynhedydd a Phlastirion o gymuned y Rhyl | 2 |
Rhyl South | De’r Rhyl | Ward Derwen o gymuned y Rhyl | 2 |
Rhyl South West | De-orllewin y Rhyl | Wardiau Cefndy a Phendyffryn o gymuned y Rhyl | 2 |
Rhyl Trellewelyn | Y Rhyl Trellewelyn | Ward Trellewelyn o gymuned y Rhyl | 2 |
Rhyl Tŷ Newydd | Y Rhyl Tŷ Newydd | Ward Tŷ Newydd o gymuned y Rhyl | 2 |
Rhyl West | Gorllewin y Rhyl | Wardiau Bodfor a Foryd o gymuned y Rhyl | 2 |
Ruthin | Rhuthun | Cymuned Rhuthun | 3 |
St Asaph East | Dwyrain Llanelwy | Ward Dwyrain Llanelwy o gymuned Llanelwy | 1 |
St Asaph West | Gorllewin Llanelwy | Ward Gorllewin Llanelwy o gymuned Llanelwy | 1 |
Trefnant | Trefnant | Cymunedau Cefnmeiriadog a Threfnant | 1 |
Tremeirchion | Tremeirchion | Cymunedau Bodfari, Cwm, Tremeirchion a’r Waun | 1 |
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mehefin 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Ddinbych. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 30 i 29, a chynyddu nifer y cynghorwyr o 47 i 48.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Ddinbych ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Ddinbych.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.